Subscriber Login
Forum
Ezine
Email us
10/09/2010
Issue 79
Datblygiadau polisi Llywodraeth glymblaid Yn wleidyddol, mae pethau’n symud yn gyflym iawn – cawsom Gabinet a Gweinidogion newydd, araith y Frenhines, cyhoeddiadau ar doriadau gwario a rhaglen ar gyfer y llywodraeth glymblaid. Dyma rai o’r penawdau: Eric Pickles yw’r Ysgrifennydd Cymunedau a Grant Shapps yw’r Gweinidog ar gyfer Tai. Mae mesurau tai allweddol y bwriada’r llywodraeth newydd weithredu arnynt yn cynnwys: • Helpu tenantiaid cymdeithasol ac eraill i fynd yn berchen neu’n rhan-berchen ar eu cartref • Rhoi’r gorau i wahardd tenantiaid cymdeithasol rhag cychwyn busnes yn eu cartrefi • Hyrwyddo cynlluniau rhan-berchenogaeth • Adolygu effeithlonrwydd cynyddu’r trothwy toll stamp ar gyfer prynwyr tro-cyntaf • Archwilio amrywiaeth o fesurau i wneud defnydd o gartrefi gwag • Hyrwyddo cynlluniau ‘gartref ar y fferm’ sy’n annog ffermwyr i addasu adeiladu yn dai fforddiadwy • Creu ymddiriedolaethau newydd a fydd yn ei gwneud hi’n haws i gymunedau ddarparu cartrefi ar gyfer pobl leol • Diogelu pobl yn fwy rhag beilïaid bygythiol a gorchmynion talu afresymol, gan sicrhau fod gan lysoedd y pŵer i fynnu mai adfeddiannu yw’r cam eithaf bob amser, a gwahardd gorchmynion gwerthu am ddyledion anwarantedig o lai na £25,000 Ac eisoes gwelsom gamau i roi terfyn ar y gofyniad fod yn rhaid i rai sy’n gwerthu eu cartrefi fod â Phecynnau Gwybodaeth Cartref ar gael i ddarpar-brynwyr. Yn araith y Frenhines, y Mesurau mwyaf perthnasol i dai yw: • Y Mesur Datganoli a Lleoliaeth • Mesur (Diwygio) Cyrff Cyhoeddus • Y Mesur Diwygio Lles • Y Mesur Sicrwydd Ynni ac Economi Gwyrdd • Mesur Rheoliad Gwasanaethau Cyllidol • Mesur Swyddfa Cyfrifoldeb am y Gyllideb Mae’r arbedion o £6.2 biliwn a gyhoeddwyd yn cynnwys arbed £150 miliwn o wariant tai a addawyd gan y llywodraeth flaenorol, ond caiff £170 miliwn o gyfanswm yr arbedion ei ailfuddsoddi i sicrhau darparu rhyw 4,000 o gartrefi cymdeithasol i’w rhentu. Amcangyfrifir y bydd effaith y toriadau ar Lywodraeth y Cynulliad yn £162.5 miliwn yn ystod 2010/11. Mae’r STS yn olrhain y datblygiadau gyda’r llywodraeth newydd ac mae’n cynhyrchu papurau cefndir defnyddiol sydd ar gael ar ei wefan Dyfodol Tai, sef www.housingfutures.cih.co.uk Cyflwr y Wlad Mae’r adroddiad State of the Nation a gyhoeddwyd ym mis Mai 2010 yn edrych ar dlodi, diweithdra a dibyniaeth ar fudd-daliadau lles yn y DU. Defnyddir y wybodaeth i lunio penderfyniadau polisi yn y dyfodol o ran mynd i’r afael â thlodi a gwella cyfleoedd bywyd. Mae’r ystadegau allweddol a nodir yn yr adroddiad yn cynnwys: • bod 5.3 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o fwy nag un math o anfantais • bod 1.4 miliwn o bobl yn y DU wedi bod ar fudd-dal diweithdra am naw neu fwy o’r 10 mlynedd diwethaf • amcangyfrifir bod rhyw 670,00 o deuluoedd yn y DU sy’n gymwys i dderbyn budd-daliadau a chredydau treth o fwy na £15,600 y flwyddyn • bod anghyfartaledd incwm ar ei lefel uchaf er i ystadegau cymharol gychwyn ym 1961 • mae mesuryddion symudedd cymdeithasol ac anghyfartaledd yn cymharu’n wael â gwledydd Ewropeaidd eraill Mae’r adroddiad ar gael ar-lein yn www.cabinetoffice.gov.uk/media/410872/web-poverty-report.pdf Cyhoeddiadau Adroddiad interim y Gweithlu Symudedd Sefydlwyd y Gweithlu Symudedd yn hydref 2009 gan Grant Shapps, Gweinidog Tai yr Wrthblaid ar y pryd, i ddatblygu cynigion a fyddai’n cynyddu symudedd tenantiaid tai cymdeithasol. Mae adroddiad interim y Gweithlu yn nodi saith thema y bwriedir ymchwilio ymhellach iddynt, gan ddatblygu argymhellion terfynol o’u cwmpas, sef: • ffyrdd newydd o fynd ati i ddyrannu cartrefi • datblygu cyfnewid cydfuddiannol a mwy o gefnogaeth i denantiaid sy’n dymuno symud • tan-ddefnydd • cynyddu’r cyflenwad • eiddo wedi ei addasu • symudedd ar gyfer pobl sy’n derbyn gofal a/neu gefnogaeth • symud oherwydd trais a throseddu Mae’r adroddiad interim ar gael ar-lein yn www.housing.org.uk/default.aspx?tabid=1256 Swyddi gwyrdd [report cover] Man cychwyn adroddiad Sefydliad Bevan, Green jobs and justice in low carbon Wales, yw bod y dystiolaeth am newid hinsawdd yn ddiymwad, fod newid hinsawdd yn golygu newid economaidd, ac y bydd yn rhaid i Gymru gwtogi ar ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Daw i’r casgliad fod gan Lywodraeth y Cynulliad lawer o strategaethau mewn perthynas â lleihau allyriadau carbon a’i bod yn gwneud rhywfaint ond nad yw hynny’n ddigon. Mae’r adroddiad yn cyflwyno rhaglen weithredu y gallai Llywodraeth y Cynulliad ei mabwysiadu, sy’n gwneud tegwch a chreu swyddi yn ganolog i’w strategaethau newid hinsawdd a swyddi gwyrdd. Mae’r adroddiad ar gael ar-lein yn www.bevanfoundation.org/17.html Effaith gymdeithasol tai gwael Mae adroddiad Ecotec, Social impact of poor housing, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010, yn nodi rhai o effeithiau difrifol llety o ansawdd gwael, gorlawn a thros-dro ar iechyd a lles unigolion, ar eu tebygrwydd o droi at droseddu ac ar eu cyflawniad addysgol. Er ei fod yn canolbwyntio ar yr unigolyn, mae’r adroddiad hefyd yn trafod rhai o gostau cymdeithasol a chyllidol ehangach methu sicrhau tai o safon uchel. Mewn cyfnod o doriadau mewn gwariant cyhoeddus, nod yr adroddiad yw cyfrannu at ddealltwriaeth o wir gost tai gwael ac oblygiadau cymdeithasol ehangach cwtogi ar fuddsoddi. Mae’r adroddiad ar gael ar-lein yn www.housing.org.uk/Uploads/File/Policy%20briefings/Social%20impact%20of%20poor%20housing.pdf Y Cynulliad Strategaeth Tlodi Plant Cymru a'r Cynllun Cyflenwi [report cover] Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi’n ymgynghori ar ei strategaeth tlodi plant newydd a’r cynllun cyflenwi cysylltiedig. Darparwyd fframwaith y strategaeth newydd gan y 13 bras amcan a restrir ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Tair nod strategol y strategaeth tlodi plant yw: • lleihau nifer y teuluoedd sy’n byw ar aelwydydd di-waith. • gwella lefel sgiliau rhieni a phobl ifanc mewn teuluoedd ar incwm isel er mwyn iddynt ddod o hyd i waith sy’n talu cyflog da. • lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yng nghanlyniadau iechyd, addysg ac economaidd plant sy’n byw mewn tlodi, drwy wella canlyniadau’r bobl dlotaf. Mae’r strategaeth yn dadlau’r achos o blaid cyflenwi lleol sydd: • yn canolbwyntio ar deuluoedd • yn bwrpasol • yn integredig • yn rhagweithiol • yn ddwys • yn lleol Gofynnir am ymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 12 Awst 2010. Mae dogfen grynodeb, y strategaeth lawn a’r cynllun cyflenwi ar gael ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/consultations/childrenandyoungpeople/cpstrategy/?lang=cy Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ar-lein (Saesneg yn unig) yn www.opsi.gov.uk/legislation/wales/mwa2010/mwa_20100001_en_1 Y Strategaeth Dai [report cover] Ym mis Ebrill lansiwyd Gwella Bywydau a Chymunedau – Cartrefi yng Nghymru, y Strategaeth Dai Genedlaethol newydd. Mae’r ddogfen yn dwyn ynghyd wahanol strategaethau ar ddiwallu angen am dai, digartrefedd a gwasanaethau cefnogi yn ymwneud â thai. Mae’n rhestru heriadau, blaenoriaethau a sut i weithredu yn y blynyddoedd sydd i ddod fel y gellir gwneud mwy ar gyfer pobl, yn enwedig pobl hŷn a rhai eraill a all fod yn ddiymgeledd. Mae hefyd yn tanlinellu’r rhan a chwaraeir gan dai yn yr economi ehangach. Mae’r strategaeth ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/strategy/publications/strategydoc/?lang=cy Cyllido SCIF rownd 2 Dyrannwyd £20 miliwn o gyllid o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF) ar gyfer 2010/11. Bydd yr arian yn talu am gynlluniau perchenogaeth cartrefi trwy rannu ecwiti, cynlluniau rhentu islaw pris y farchnad, ac ailgychwyn gwaith ar gynlluniau tai gohiriedig, yn ogystal â thai ar ddau safle sy’n eiddo i Lywodraeth y Cynulliad a dau safle sy’n perthyn i awdurdodau iechyd. Amcangyfrifir y bydd arian SCIF yn darparu rhwng 400 a 500 o gartrefi newydd ledled Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2010/11. Nodwyd yr holl gynlluniau fel blaenoriaethau i’r awdurdodau lleol, a chafodd arian ei ddyrannu i 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Atal digartrefedd Cafodd £1 miliwn o gyllid ychwanegol i atal digartrefedd ledled Cymru ei gyfeirio’n benodol at sicrhau fod pobl yn cael y cyngor a’r cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosib. Derbyniodd deuddeg project ledled Cymru gyllid i fynd i’r afael â materion fel: • atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc • gwneud gwasanaethau cynghori ar dai yn fwy hygyrch • helpu pobl ddiymgeledd i aros yn eu cartrefi • helpu pobl yr effeithiwyd arnynt gan ddiswyddo a phroblemau cyflogaeth Mae llawer o’r projectau yn ymdrechion ar y cyd rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol a/neu sefydliadau sector gwirfoddol. Ymateb chwim Dyfarnwyd mwy na £2 filiwn ar gyfer 2010/11 i gynllun sy’n gwneud mân addasiadau hanfodol i gartrefi pobl hŷn er mwyn iddynt allu cael eu hanfon adref o’r ysbyty yn gyflymach. Bydd y Rhaglen Addasiadau Ymateb Chwim yn caniatáu gosod offer fel esgynfeydd, canllawiau, larymau diogelwch a systemau mynediad yng nghartrefi pobl yn gyflym fel na chânt eu cadw yn yr ysbyty yn hwy na’r angen, na gorfod mynd yn ôl yno yn y dyfodol. Caiff y cynllun ei weinyddu a’i fonitro gan Gofal a Thrwsio Cymru, a’i ddarparu gan asiantaethau Gofal a Thrwsio. Arbed Bydd pobl mewn o leiaf 21 o gymunedau yng Nghymru yn elwa ar gynllun gwyrdd i wella cartrefi sydd â £30 miliwn o gyllid yn ei flwyddyn gyntaf. Bydd y cynllun Arbed yn cynyddu effeithlonrwydd ynni’r stoc tai presennol mewn rhai o rannau mwyaf difreintiedig y wlad a hefyd yn hwb i swyddi, sgiliau ac adfywio. Mae’r £30 miliwn o gyllid ar gyfer projectau a fu’n llwyddiannus yn rownd gyntaf y cynllun. Gohirio achub morgeisiau Mae Llefarydd Tai y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Peter Black, wedi mynegi ei bryder ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ohirio’r Cynllun Achub Morgeisiau yng Nghymru. Daeth y newyddion i’r amlwg wedi i ebost gael ei anfon at awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gofyn am ‘beidio ag anfon ceisiadau pellach nes y clywir yn wahanol’. Cefnogaeth i gynllunio Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson, werth £1.75m o gyllid i wella’r ffordd y darperir gwasanaethau cynllunio ledled Cymru. Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd pob un o’r 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru (22 o awdurdodau lleol a’r tri Pharc Cenedlaethol) yn derbyn grant o £70,000 yr un yn 2010-11 er mwyn parhau i gefnogi gwelliannau i’r ffordd y darperir gwasanaethau cynllunio leol. Mae cyllid yn cael ei roi hefyd i’r Porth Cynllunio i gefnogi darparu gwasanaethau cynllunio ar-lein yng Nghymru, ac ar gyfer bwrsariaethau i fyfyrwyr ôl-raddedig yn Adran Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd. Cymru Marchnad dai Cymru Disgwylir i werthiant eiddo gynyddu’n gyflymach yng Nghymru nag unrhyw fan arall yn y DU yn ôl yr Arolwg Marchnad Dai gan Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Siartredig (RICS) a gyhoeddwyd ar yr 11 Mai 2010. Mae Cymru’n perfformio’n gryf yn y farchnad eiddo yn Arolwg Marchnad Dai mis Ebrill ar bob agwedd ond ar bris, gyda phrisiau eiddo yng Nghymru yn dal i ddisgyn. Ar yr ochr bositif, Cymru gafodd y cynnydd ail fwyaf mewn ymholiadau gan brynwyr newydd yn ogystal â mewn gwerthiannau newydd eu cytuno. Daw Arolwg Rhentu diweddaraf RICS a gyhoeddwyd ym mis Mai hefyd, i’r casgliad fod diffyg cyflenwad yn gwrthio rhenti yn uwch, sy’n arwydd o adfywiad yn y farchnad rentu yng Nghymru. Mae cost rhentu wedi codi’n sylweddol yn ystod chwarter cyntaf 2010. Gellid priodoli’r duedd hon, yn rhannol, i’r gostyngiad parhaus yn y cyflenwad o fflatiau a thai yn y farchnad Gymreig. Mae’r adfywiad yn y farchnad dai wedi temtio llawer o’r landlordiaid damweiniol, a fu’n gosod eu heiddo tra’r oedd y farchnad i lawr, i werthu. Clickonwales Lansiwyd cylchgrawn newyddion ar-lein gan y Sefydliad Materion Cymreig. Mae’r wefan – www.clickonWales.org – yn cynnwys dadansoddiadau a sylwebaeth ddyddiol ar economi, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru a chwestiynau polisi cyhoeddus ehangach. Tai Sir Fynwy yn canolbwyntio ar gynhwysedd ariannol [pic and logo] Mae Partneriaeth Cynhwysedd Ariannol Sir Fynwy, dan arweiniad Cymdeithas Tai Sir Fynwy, wedi lansio gwefan monmoney.net a ddatblygwyd ar gyfer trigolion Sir Fynwy. Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am y cyngor sydd ar gael yn sir Fynwy ynglŷn â: • dyledion a materion ariannol • budd-daliadau lles • cynilion • swyddi a sgiliau Mae gan y bartneriaeth dair cymdeithas tai ymhlith ei haelodau – Tai Sir Fynwy, Tai Charter, a Chartrefi Melin sy’n gweithio ochr yn ochr â nifer o bartneriaid eraill yn cynnwys Cymunedau’n Gyntaf, Undeb Credyd Gateway, Canolfan Byd Gwaith, gwasanaethau Cefnogi Pobl, a gwasanaethau Addysg Oedolion a Chymunedau Cyngor Sir Fynwy i wneud pobl yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd cynhwysedd ariannol. Gwnaeth Cymdeithas Tai Sir Fynwy gais llwyddiannus hefyd i fenter ‘now let’s talk money’ yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar gyfer Canllawiau Arian Cymunedol fel rhan o’u project ‘Wise Up’ sydd i fod i gael ei lansio yn yr wythnosau nesaf. Bydd y Canllawiau Arian Cymunedol yn cynnig cyngor personol i denantiaid Tai Sir Fynwy ar gynhwysedd ariannol, gan annog pobl i agor cyfrifon banc a hyrwyddo benthyciadau fforddiadwy, datblygu’r arfer o gynilo trwy hyrwyddo cyfrifon cynilo gydag Undeb Credyd, a chael mwy o bobl i brynu yswiriant ar eu cartrefi a’u cynnwys. Bydd y Canllawiau Arian Cymunedol yn darparu cyngor hefyd ar effeithlonrwydd ynni, newid cwmnïau ynni, a phrojectau i annog pobl i hawlio budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt. Am wybodaeth bellach ynglŷn â gwaith Partneriaeth Cynhwysedd Ariannol Sir Fynwy, cysyllter â Farida.aslam@monmouthshirehousing.co.uk Grwp Cartrefi Cymunedol Cymru yn ehangu Cyfarfu bwrdd interim Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru ar y 30 o Ebrill 2010 a chytuno’n unfrydol i ymuno â grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru. Safon Sgiliau Sylfaenol Mae’r elusen ddigartrefedd, Llamau, yn dathlu ei lwyddiant fel y sefydliad trydydd-sector cyntaf yng Nghymru i dderbyn Safon Ansawdd Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad. Mae’r Safon Ansawdd yn fersiwn mwy caeth o’r Marc Ansawdd a ddisodlwyd ganddo y llynedd. Fe’i rhoddir i sefydliadau am wella ansawdd y ddarpariaeth sgiliau sylfaenol ar gyfer dysgwyr ifanc, yn ogystal â’r ddarpariaeth sgiliau sylfaenol i oedolion. Cartrefi newydd [pic] Cytunwyd ar ffurf derfynol y cytundeb £7.7 miliwn ar gyfer Cynllun Gofal Ychwanegol newydd yn Wrecsam, ac mae’r gwaith newydd ddechrau ar y cynllun ym Mhlas Madoc. Mae llawer o nodweddion arloesol yn perthyn i gynllun Pennaf, yn cynnwys gofod to eco-gyfeillgar wedi ei orchuddio â phlanhigion er mwyn denu adar ac ieir bach yr haf. [pic] Plannu coed yn natblygiad newydd Cantref, Parc Meiros, yn Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin. [pic] Llun o gartrefi Clwyd Alyn yn Princes Street, Y Rhyl ar ôl gweddnewidiad y talwyd amdano gan Lywodraeth y Cynulliad. Gwasanaethau newydd [logo] Lansiodd Grŵp Seren ystod newydd o nwyddau a gwasanaethau yn ddiweddar, yn benodol at ddefnydd pobl hŷn. Mae’r Grŵp eisoes yn darparu amrywiaeth eang o fathau o lety, cefnogaeth, a gwasanaethau cynnal a chadw ac addasu cartrefi ar gyfer pobl hŷn, a dygwyd y rhain ynghyd o dan y teitl 50 a mwy, siop un-stop ar gyfer pobl hŷn sy’n edrych am gyngor, cefnogaeth a gwybodaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein yn www.seren-group.co.uk/50andup Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ennill cytundeb i fonitro larymau cymdeithasol ar gyfer Grŵp Tai Pennaf. Mae ychwanegu’r cytundeb hwn, a gychwynnodd ar 1 Ebrill 2010, at bortffolio cyfredol CTWW yn golygu ei bod bellach yn monitro larymau mwy na 4,000 o aelwydydd ledled Cymru. [pic] Sefydlwyd gwasanaeth arbenigol ar y cyd gan Gyngor Sir Dinbych a’r Swyddfa Cyngor i Ddinasyddion mewn dau lys sirol er mwyn darparu cyngor cyfreithiol ac ar reoli dyledion i bobl sy’n wynebu adfeddiannu fel y gallant aros yn eu cartrefi. Y bwriad yw atal pobl sydd ag ôl-ddyledion morgais/rhent rhag colli eu cartrefi, darparu cyngor ac eiriol ar ran pobl sy’n wynebu adfeddiannu, darparu cyngor ar ôl gwrandawiadau llys a chymorth i ymdopi â dyledion, a chyfeirio pobl at asiantaethau eraill a allai ddarparu cymorth. Cyfarwyddydd newydd [pic] Julie Philips, sydd bellach yn Gyfarwyddydd Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol gyda Chymdeithas Tai’r Rhondda. Arwyr Tai: llwyddiant i Gymru [pic] Enillodd Grŵp Llywio Moneyline Cymru wobr Tîm Gwasanaethau Torri Tir Newydd y Flwyddyn yn seremoni Wobrwyo Arwyr Tai 2010, am sefydlu Moneyline Cymru, sy’n cynnig credyd hawdd, diogel, fforddiadwy i bobl ar incwm isel. Yn ychwanegol at hynny, derbyniodd tîm TG Grŵp Tai Cadarn deitl Tîm TG y Flwyddyn. Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd yn colli ei brwydr yn erbyn canser [pic] Bu farw Lindsay Al-Nuaimi, 62, ym mis Ebrill ar ôl brwydr yn erbyn canser. Bu Lindsay’n gadeirydd Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd o’i ddyddiau cynharaf ac roedd yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth hyd at ei marwolaeth. Helpodd Lindsay i arwain y project adfywio hwn sydd wedi darparu byngalos modern yn lle llawer o gartrefi ‘prefab’ Casnewydd.