Search
 

Fforwm rhannu ceir – telerau defnyddio

Dychweler i’r fforwm rhannu ceir

Nid clwb rhannu ceir mo fforwm rhannu ceir WHQ – dim ond ffordd o alluogi pobl i gyfnewid gwybodaeth ynglyn â rhannu ceir i deithio i ddigwyddiadau perthnasol yng Nghymru. Y gobaith yw y bydd pobl yn ei ddefnyddio i drefnu lifftiau gyda ffrindiau a chyd-weithwyr maent eisoes yn eu hadnabod sy’n teithio i’r un digwyddiadau. Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio i drefnu rhannu ceir gyda phobl nad ydych yn eu hadnabod hefyd.

Nid yw WHQ yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gydweddu cynigion a cheisiadau am lifftiau. Ni fydd WHQ yn atebol ychwaith am:

Awgrymwn y dylech, wrth gofnodi eich manylion ar y wefan, roi eich cyfeiriad ebost gan ddefnyddio’r gair ‘at’ yn hytrach na’r symbol @ - sy’n golygu llai o debygrwydd o dderbyn sbam. Gallwch hefyd gynnwys eich rhif ffôn os mynnwch.

Mae unrhyw un sy’n trefnu i ddarparu neu dderbyn lifft yn gyfrifol am ei dd/diogelwch ei hun, ond mae yna ganllawiau diogelwch syml y gall pawb eu dilyn os nad ydych yn adnabod y person rydych yn rhannu car gydag ef/hi:

Yn olaf, os bydd eich cynlluniau teithio’n newid, da chi, rhowch wybod i’r person sydd wedi cynnig lifft neu dderbyn lifft gyda chi rhag peri anghyfleustra iddo/iddi.

Mae mwy o wybodaeth ynglyn â rhannu ceir a ffyrdd eraill o gwtogi ar ddefnyddio ceir ar gael ar-lein ar www.carplus.org.uk.

Ni chaiff ddefnyddwyr y fforwm rhannu ceir:

Ceidw WHQ yr hawl i olygu neu ddileu unrhyw sylwadau amhriodol a ymddengys ar y wefan hon.