Cyflenwad: Gwir werth cartrefi newydd

Beth arall ellir ei wneud i gynyddu’r cyflenwad tai? Dair blynedd wedi cyhoeddi adroddiad y tasglu gweinidogol y bu’n ei gadeirio, mae Robin Staines yn asesu hynt y gwaith hyd yma ac opsiynau ar gyfer y dyfodol.

Yn ddiweddar, deuthum ar draws erthygl ddiddorol dros ben am y gwahaniaeth sylweddol yn lefelau hapusrwydd preswylwyr o fewn gwahanol siroedd, a rhwng sir a sir. Mae’n debyg nad yw hyn yn syndod llwyr, ond tybed beth ddigwyddai pe câi’r ymchwil hon ei chroesgyfeirio â ffactorau eraill fel cyfoeth, iechyd, amodau tai a disgwyliad oes.

Tra bod yr amrywiad mewn lefelau hapusrwydd yn ddiddorol, mae’r bwlch anferth mewn disgwyliadau oes yn frawychus. Yn dibynnu ar ble yng Nghymru rydych yn byw, gall rhai ddisgwyl byw hyd at bum mlynedd yn hwy; o ran disgwyliadau ‘oes iach’, mae’r bwlch ddeng mlynedd yn fwy. Caiff anghydraddoldeb ei ddisgrifio yn aml mewn termau ariannol, ond mae hyn yn ein hatgoffa bod bywydau rhai sy’n byw yn y cymunedau tlotaf yn fyrrach a llai iach.

Dyma lle gallwn ni chwarae ein rhan. Mae’r cysylltiad rhwng tai a iechyd wedi ei hen sefydlu, a Cartrefi Cymuned Cymru yn cydweithio’n glos gyda llywodraeth leol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau gwell cartrefi a phreswylwyr iachach. Gellir priodoli treialon a gofidiau’r GIG yn rhannol i gartrefi sy’n heneiddio ac yn gwastraffu ynni, ac yn rhannol i’r ffaith bod adnoddau’n cael eu cyfeirio at wella yn hytrach nag at atal.

Mae’n hastudiaeth o effeithiau ar iechyd tymor-hir, ar y cyd â phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, yn dangos buddiannau sylweddol buddsoddi yn ein cartrefi. Mae hyn yn cynnwys llai o achosion o afiechyd cardiofasgwlaidd a bronciol, llai o ymweliadau â’r meddyg ac i A&E, a chartrefi haws a rhatach i’w gwresogi sy’n llawer mwy tebygol o ateb anghenion y preswylwyr.

Efallai i ni amau llawer o hyn cyn cychwyn ar y rhaglen ymchwil, ond gwyddom hynny bellach. Yr hyn a oedd yn amlwg i ni oedd yr effaith ar iechyd meddwl, gyda thenantiaid yn dweud wrthym eu bod yn teimlo llai o iselder, mwy o hyder, a mwy o awydd ymwneud yn gymdeithasol ag eraill wrth deimlo’n falch o’u cartref. Mae’r cynnydd hwn mewn urddas a pharch yn drawiadol.

Dyna pam y dylem dalu teyrnged i Lywodraeth Cymru am gadarnhau targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod y tymor seneddol hwn (sef bron ddwywaith cymaint â’i rhagflaenydd).

Dylid rhoi clod pellach i’r gweinidog a’i dîm am gydnabod na ellir cyflawni hyn ond drwy gydweithio’n glòs â darparwyr, ac mae’r cytundeb a lofnodwyd yn ddiweddar gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru yn nodi’r cyfrifoldebau a’r atebolrwydd sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y targed, fel yr ydym yn gwbl benderfynol o wneud.

Ar nodyn mwy sinigaidd, mae’n amheus a fyddai targed mor wleidyddol ei ysgogiad â hwn wedi cael ei osod oni bai bod adnoddau eisoes ar gael, a chytundeb wedi ei sicrhau, i bob pwrpas. Nid yw hynny’n golygu na cheir y problemau arferol, ond cânt eu goresgyn.

Cwestiwn arall yw beth yn union fydd cynnwys yr 20,000, ac i ba raddau mae’n adlewyrchu angen yn hytrach na dyhead. Mae ymholiadau cynyddol i gyrff cynghori ar dai, ac ymchwil blaenorol (mae Holmans a Monk yn 2010 yn dyfynnu angen am 14,000 o gartrefi y flwyddyn), yn awgrymu y byddwn ymhell o’r hyn sydd ei angen, yn hytrach na’r hyn y gellir ei ariannu.

Mae a wnelo gwleidyddiaeth â dewis, a lle mae ‘tai’ yn sefyll yn nhrefn blaenoriaethau bywyd. Ar ôl astudio gwleidyddiaeth am dair blynedd yn y coleg, deuthum ar draws geiriau Harold Lasswell sydd cyn wired heddiw ag ym 1936: gwleidyddiaeth yw ‘pwy sy’n cael beth, pryd, sut’. Pe bawn i wedi darganfod y chwe gair hwnnw ynghynt, gallaswn fod wedi arbed tair blynedd i mi fy hun.

Tanlinellwyd hynny pan ofynnwyd i mi gadeirio tasglu gweinidogol ar y cyflenwad tai. Roedd y gweinidog bryd hynny (sef y gweinidog presennol) yn eiddgar i’r rhwystrau i gynyddu’r cyflenwad tai gael eu nodi a’u dileu ar fyrder. Yn ystod ein project chwe mis, daethom i’r casgliad, er bod yna deimlad cyffredin bod mwy o gartrefi yn beth da, bod yna ddiwylliant o beidio â chydnabod bai, ond rhoi’r bai ar bawb arall.

Mae’r rhwystrau yn hysbys ac wedi cael eu hailadrodd dro ar ôl tro. Yr her oedd adeiladu consensws ynglŷn â sut i’w goresgyn. Cawsom bod llawer o fuddiannau gwahanol ynghlwm wrth ddarparu tai, nad yw pob rhwystr yn hunan-osodedig, ac felly, nad oes unrhyw atebion hawdd.

Ni allem ddod o hyd i fwled hud i ddatrys y broblem. Doedd yna nemor ddim y medrem ei ddweud na chawsai ei ddweud yn flaenorol – dwi’n amau a fyddai’r casgliadau yn wahanol iawn heddiw. Yr ateb yw cydgrynhoi llawer o enillion bach yn hytrach nag un newid mawr i’r system gyfan. Mae’n rhy gymhleth i hynny.

Nid yw hynny’n golygu na chymerwyd camau ymlaen ers cyhoeddi adroddiad y tasglu yn Ionawr 2014 – fodd bynnag, erys llawer o’r problemau, ar un wedd neu’i gilydd. Gwnaed 23 o argymhellion, mewn tri grŵp gweithredu: ar unwaith (saith), tymor canolig (13) a hir-dymor (tri). Cynhwysai’r rhain amrywiaeth eang o ffactorau sy’n gyrru’r farchnad, yn cynnwys argaeledd tir, cynllunio, gwasanaethau statudol, safonau a chyfraddau grant.

Yn wyneb buddiannau croes i’w gilydd ar adegau, gallai ‘Y geiniog a’r fynsen’ fod wedi bod yn deitl gweithiol i’r adroddiad. Ceir pwysau, wrth reswm, o blaid safonau dylunio uchelgeisiol ond hefyd o blaid cynhyrchu cymaint o dai â phosib – beth sy’n rhaid ei ildio, yn gyfnewid am beth? Mae’n ddewis anodd, i strategwyr canolog yn ogystal â darparwyr lleol.

Llywodraeth Cymru sydd â’r dasg annymunol o benderfynu ble i dargedu adnoddau er mwyn cyflawni’r pwyntiau gweithredu hyn. O fewn hynny, rhaid cydbwyso perfformiad a chanlyniadau buan â newid strwythurol tymor-hwy. Mae angen buddsoddi arian nawr i arbed arian yn y tymor hir. Mae’n rhy hawdd gweld gwasanaethau cyhoeddus fel cost beichus.

Dylid gweld tai fel dull o gynhyrchu elw da ar fuddsoddiad (mewn ffyrdd sydd o fudd i gymdeithas ac sy’n lleihau costau mewn meysydd eraill) yn hytrach na baich ariannol. Gwir yr hen air, ‘ystyriwch y gwerth, nid y gost’. Ar yr un trywydd, credaf y gallem ninnau oll wneud mwy i sefydlu’r gwerth hwnnw.

Fodd bynnag, mae angen ystyried nid yn unig sut i rannu’r gacen, ond maint y gacen hefyd. Efallai bod pobl yn sylweddoli, os ydym am gael y gwasanaethau cymdeithasol (gan gynnwys tai yn hynny) yr hoffem, ac y disgwyliwn eu cael, rhaid i rywun dalu.

Clywaf bod tai yn cystadlu yn erbyn iechyd a gofal cymdeithasol (heb sôn am addysg, cludiant, isadeiledd, adfywio, ac ati). Ond byddwn innau’n dadlau nad ydym yn cystadlu yn eu herbyn ond yn eu cyflenwi a’u hwyluso. Gall tai fod yn rhan o’r strwythur hir-dymor a fydd yn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gofal – a chynnig dewis hefyd.

Po gyntaf y buddsoddir arian (yn lle ystyried hynny fel gwariant) mewn modelau a llwybrau tai priodol, y cyntaf oll y gellir rheoli a lliniaru’r galw a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus hollbwysig. Mae menter Cartrefi Melin, Mewn Un Lle (dull cydweithredol o ddarparu llety a gofal parhaus ar gyfer pobl, lle mae wyth cymdeithas tai a phump awdurdod lleol yn gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaeth iechyd a thai o safon) yn fan cychwyn gwych.

Aeth ychydig dros dair blynedd heibio ers cyhoeddi’n hadroddiad. Gadawodd y tasglu lasbrint i weinidogion o sut y gallai pethau fod yn well. Nid yn berffaith, ond yn well. Erbyn meddwl, efallai y byddai wedi helpu i sbarduno’r newid sydd ei angen arnom pe bai llywodraethiant ôl-adrodd yn gliriach.

Mae llywodraethiant da yn aml yn rhagofyniad ar gyfer perfformiad da. Cychwynsom y ras, ond ni allasom gynnal y momentwn, yr oruchwyliaeth a’r ymrwymiad gan wleidyddion a’r diwydiant a allai fod wedi symud y nodwydd ymhellach ymlaen.

Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol yn wyneb yr angen am ddod â sectorau, asiantaethau a buddiannau economaidd tra gwahanol ynghyd er mwyn cyrraedd ein nod o gyd-bwrpas (lle mae hynny’n bod) a daioni cyffredin.

Does ond rhaid i chi siarad ag adeiladwyr tai, er enghraifft, am eu rhwystredigaeth â’r gyfundrefn gynllunio, yn enwedig ar lefel ranbarthol. Gobeithio, gyda’r papur gwyn ar lywodraeth leol (Cadernid ac Adnewyddiad), bydd cael gwasanaethau cynaliadwy wedi eu darparu ar lefel ranbarthol (lle bo hynny’n briodol) yn ein helpu i feddwl yn wahanol a darparu’n wahanol. Mae’r papur gwyn yn sôn hefyd am ddarparu tai ar lefel ranbarthol – sy’n destun sgwrs ddiddorol ynddo’i hun.

Tra byddai ailymweld â’r tasglu er mwyn gwerthfawrogi’r hyn a wnaed ac na ellir ei wneud yn ymarferiad academaidd diddorol, mae materion eraill yn pwyso. A bwrw i ni ymateb yn bositif, a darparu’r 20,000 (fel y credaf y gwnawn), y cwestiwn nesaf yw ychwanegedd. Byddai’n braf iawn arnom pe bai’r gweinidog yn gallu darbwyllo’i gydweithwyr i ddyrannu adnoddau (yn cynnwys tir) ychwanegol at y 20,000. Oni all, mae arnom angen cynllun B. Lle nad oes arian, bydd yn rhaid i ni feddwl yn wahanol.

Felly, sut mae sicrhau ‘ychwanegedd’? Gallem ddechrau gyda’r 30,000 a mwy o gartrefi gwag, na, cartrefi gwastraff, yng Nghymru. Mae gan y rhain y fantais ychwanegol nad oes angen cynllunio, eu bod wedi eu cysylltu â gwasanaethau, a bod llawer ohonynt reit yng nghanol cymunedau cydnerth.

Mae Troi Tai’n Gartrefi yn ddechrau da i’r gwaith o ailgylchu’r rhain i’w defnyddio eto, ond dim ond yn ddechrau. Gall mwy o ewyllys, sgiliau, arbenigedd technegol ac adnoddau helpu i adfer yr adnoddau gwastraff hyn. Efallai ei bod hi’n bryd sefydlu asiantaeth cartrefi gwag genedlaethol i gydgysylltu’r gwaith a chefnogi perchenogion a darparwyr.

Mae’r sector rhentu preifat yn tyfu’n sylweddol i fod, gyda mwy na 200,000 o gartrefi, o fewn trwch blewyn o ran maint i’r sector tai cymdeithasol. Bu asiantaethau rhentu cymdeithasol yn llwyddiannus iawn o ran agor rhannau o’r sector rhentu preifat i’r rheini â mwyaf o angen. Gall y mathau hyn o asiantaeth gynnig gwasanaethau rheoli a chynnal-a-chadw o ansawdd i landlordiaid, a mesur o sicrwydd i denantiaid na fyddai ganddynt fel arall.

Mae gwneud gwell defnydd o’r stoc bresennol yn rhan o’r ateb, ond mae adeiladu mwy o dai yn ehangach ei effaith, o ran sicrhau swyddi a sgiliau yn y diwydiant adeiladu a chymunedau lleol. Yn wyneb maint y broblem, nid dyma’r amser i hollti blew ynglŷn â phwy sy’n darparu, gan fod mwy na digon o gyfle i bob landlord a hwylusydd cymdeithasol gyfrannu.

Er bod tir yn gyfyngedig, gellir dod o hyd i arian fel arfer os yw’r cynnig yn un da. Gyda hyn mewn cof, dylem fod yn ymwybodol iawn o’r cyfleoedd y gall y Bargeinion Dinas newydd eu cynnig.

Gall mentrau eraill, megis cwmnïau tai lleol (fel yr enghraifft wych yn sir y Fflint) ddenu arian buddsoddi newydd uwchlaw’r terfynau benthyca sy’n cyfyngu’n artiffisial ar allu awdurdodau o landlordiaid i ddatblygu. Bydd gofyn i ni gofleidio arloesedd o’r math hwn.

Efallai na all arian brynu cariad i chi, ond gall sicrhau bod eich amodau tai o safon sy’n gwarantu na fydd eich preswylfan yn effeithio’n wael ar eich iechyd, eich lles a’ch hapusrwydd.

Robin Staines yw Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Gâr. Gellwch gysylltu ag ef ar [email protected] Ceir adroddiad y tasglu yn

www.gov.wales/docs/desh/publications/140130delivering-more-homes-for-wales-cy.pdf


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »