English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Yr ymateb yng Nghymru

Carl Sargeant, ysgrifennydd y cabinet dros gymunedau a phlant, yn amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell

Mae gan ganlyniadau trasig y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain y mis diwethaf oblygiadau pellgyrhaeddol i’r llywodraeth, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a landlordiaid preifat ledled y DU.

Fel yr ysgrifennydd cabinet â chyfrifoldeb am dai, yn ogystal â’r cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub, rwyf wedi ceisio sicrhau bod ein hymateb i’r drasiedi a’r materion sy’n deillio ohoni wedi bod yn chwim ac eto’n gytbwys.

Fel cam cyntaf, cysylltodd fy swyddogion ag awdurdodau lleol Cymru a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn asesu’r blociau saith-llawr ac uwch yn ei meddiant, a roddwyd cladin drostynt ac, os felly, pa fath o gladin a ddefnyddiwyd.

Yn sgil yn ymchiliadau cychwynnol hyn, fe’m hysbyswyd na chafwyd y math o gladin a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell (h.y. Reynobond PE), yn unrhyw dŵr bloc tai cymdeithasol yng Nghymru, ond y darganfuwyd Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) mewn saith bloc. Gwnaed profion ar samplau o’r rhain ac maent wedi methu.

Wrth reswm, mae’r sefyllfa’n gofyn am gydweithrediad clòs rhwng llu o asiantaethau a gwasanaethau. Diogelwch a thawelwch meddwl preswylwyr yw blaenoriaeth uchaf un pob sefydliad sy’n ymwneud â’r mater, ac mae’n dda gennyf ddweud ein bod oll yn cydweithio’n effeithiol.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyrff eraill, yn gwbl ymrwymedig i ymateb mewn modd pwyllog a chymesur sy’n cydnabod pwysigrwydd diogelwch a thawelwch meddwl tenantiaid. Mae eu pryder yn gwbl ddealladwy ac rwyf yn eiddgar i ymdrin â hynny cyn gynted ag sy’n bosibl.

Er mwyn deall profiad y rheini sy’n byw yn yr eiddo yr effeithir arno a chlywed eu barn, ymwelais â thenantiaid yn rhai o’r blociau hyn yn Abertawe. Roedd y trafodaethau yn bositif a byddant o gymorth wrth i ni symud ymlaen i weithredu. Gallais hefyd egluro’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod blociau tŵr yn ddiogel.

Mae’n hanfodol bod unrhyw weithredu gan y Llywodraeth yn seiliedig ar y cyngor proffesiynol gorau posibl. Mae ein gwasanaethau Tân ac Achub ardderchog yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi landlordiad a sicrhau y cymerir pob cam priodol a rhesymol i ddiogelu tenantiaid. Mae eu ffordd broffesiynol a chytbwys o fynd ati gyda rheoli risg a diogelwch tân yn hollbwysig.

Cyhoeddais hefyd y byddwn yn cynnull grŵp i gynnig cyngor ar y gwersi i’w dysgu gan Grenfell a sut y byddwn yn gweithredu ar sail y cyngor hwnnw. Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân yw fy mhrif gynghorydd tân ac achub, Des Tidbury, ac mae’n cynnwys yr aelodau a ganlyn:

  • Steve Thomas – prif weithredydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Ruth Marks – prif weithredydd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Huw Jakeway – prif swyddog tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • David Wilton – prif weithredydd, Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid Cymru
  • Stuart Ropke – prif weithredydd, Cartrefi Cymunedol Cymru

Mae’r grŵp wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf a bydd yn cwrdd yn rheolaidd.

Tra canolbwyntiwyd yn y lle cyntaf yma ac yng ngweddill y DU ar dai cymdeithasol, mae’r pwyslais wedi ehangu i dai preifat ac adeiladau eraill o fewn y sector cyhoeddus. Rydym yn cydgysylltu’r ymatebion gan y sectorau addysg ac iechyd. Mewn perthynas ag ysgolion a cholegau, cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol a sefydliadau Addysg Bellach (AB) yn cadarnhau mai dim ond ar gyfer adeiladau o fewn ysgolion a cholegau AB sy’n cynnwys llety dros nos neu sydd dros 18 metr o uchder y dylid ystyried profion ACM.

Rydym hefyd yn cydweithio’n glòs gydag awdurdodau lleol i nodi tai preifat saith-llawr neu fwy a allai hefyd fod â chladin ACM, a byddwn yn sicrhau y gall perchenogion yr adeiladau hynny elwa ar yr un cyngor a chanllawiau, a phrofion lle bo hynny’n briodol, â’n landlordiaid tai cymdeithasol.

Wrth i mi sgrifennu hyn, mae panel arbenigwyr annibynnol llywodraeth y DU ar ddiogelwch wedi cynghori y dylid cynnal profion pellach er mwyn helpu landlordiaid i sicrhau diogelwch eu hadeiladau. Bydd y profion yn helpu i ddarganfod sut y mae gwahanol fathau o baneli ACM, mewn cyfuniad â gwahanol fathau o ddefnydd inswleiddio, yn ymddwyn mewn tân. Yr un profion yw’r rhain â’r rhai a wnaed ar ran gwneuthurwyr y cladin a ddefnyddiwyd yn Abertawe.

Mae’r cyngor hwn i’w groesawu a bydd o gymorth wrth ystyried a ellir defnyddio paneli a fethodd y prawf cychwynnol yn ddiogel fel rhan o system wal allanol ehangach, ac y gallai felly aros ar adeilad o dan rai amgylchiadau a gymeradwywyd. Rwy’n disgwyl diweddariad ar hyn gan lywodraeth y DU cyn bo hir.

Mae’r darlun yn un cyfnewidiol a chymhleth, ond rwyf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau y gallwn wella mesurau diogelwch a rhoi sicrwydd i denantiaid, gyda chymorth ac ymrwymiad llawn ein partneriaid, yn cynnwys LCCiaid, awdurdodau lleol, a Gwasanaethau Tân ac Achub.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »