English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Dim oedi gyda chredyd cyffredin

Gwrthsafodd gweinidogion bwysau gan yr wrthblaid, elusennau a rhai o’u meinciau cefn eu hunain i fwrw ymlaen i gychwyn gweithredu gwasanaeth credyd cynhwysfawr llawn ar fyrder.

Cadarnhaodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gynlluniau i gyflwyno’r cynllun mewn 45 o’i chanolfannau gwaith ledled y DU ym mis Medi, ar ôl y 29 ym mis Gorffennaf.

Mae credyd cyffredinol eisoes ar gael ledled y DU i geiswyr gwaith dibriod, ond mae’r cam hwn yn ei ymestyn i bob hawliwr newydd, yn cynnwys teuluoedd a phobl na allant weithio.

Addawodd yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau David Gauke fwrw ymlaen yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, ond cyflwynodd ganllawiau newydd hefyd i sicrhau y cynigir taliad o flaen llaw i unrhyw un sydd ag angen hynny, a gaiff ei dalu o fewn pum diwrnod gwaith.

Croesawodd Cyngor ar Bopeth, sydd wedi galw’r ehangu yn ‘drychineb yn aros i ddigwydd’, y cam, ond dywedodd ‘byddwn yn parhau i gadw llygad barcud ar effeithiau credyd cyffredinol ar broblemau fel dyled ac ôl-ddyledion rhent wrth i’r ehangu fynd yn ei flaen.’

LLOEGR

May yn rhoi lle canolog i dai yn y gynhadledd

Addawdd y Prif Weinidog Theresa May osod tai wrth graidd ei phrif weinidogaeth wrth i’r llywodraeth gyhoeddi £10 biliwn ychwanegol ar gyfer benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu a £2 biliwn ar gyfer tai fforddiadwy.

Cadarnhaodd y llywodraeth fformwla rhenti newydd ar gyfer tai cymdeithasol hefyd, a wêl renti yn cynyddu eto o 2020 wedi pedair blynedd o gwtogi ar renti er mwyn arbed arian ar fudd-dâl tai.

Cyhoeddwyd yr arian newydd ar gyfer Cymorth i Brynu yn gynnar yng nghynhadledd y Blaid Gweidwadol ym Manceinion. Mae’n dyblu’r gyllideb ar gyfer y cynllun, ac yn ôl gweinidogion byddai’n helpu 135,000 arall o deuluoedd i brynu cartref newydd-ei-adeiladu erbyn 2021.

Cyhoeddwyd y £2 biliwn ychwanegol i gynyddu’r Rhaglen Tai Fforddiadwy o £7.1 biliwn i £9.1 biliwn gan y prif weinidog yn ystod ei haraith arweinyddol i’r gynhadledd.

Dywedodd y llywodraeth y byddai hyn yn galluogi adeiladu ‘cenhedlaeth newydd o gartrefi cyngor a chymdeithas adeiladu’ ac y câi landlordiaid adeiladu cartrefi ar rent cymdeithasol mewn ardaloedd o dan bwysau dybryd o ran fforddiadwyedd.

Dyma’r tro cyntaf i’r llywodraeth ganol gyllido rhentu cymdeithasol ers 2010, a dywedai gweinidogion y gallai hyn ddarparu 25,000 o gartrefi ychwanegol yn ystod y senedd hon.

Caniateir i renti cymdeithasol gynyddu ar raddfa o’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 1 y cant am bum mlynedd o 2020. Dyna’r fformiwla a oedd mewn grym tan 2016 pan bennodd y llywodraeth gwtogiad o 1 y cant y flwyddyn yn lle hynny.

Dim grant ar gyfer diogelu rhag tân

Cadarnhaodd yr ysgrifennydd cymunedau Sajid Javid na fydd unrhyw grant newydd ar gael gan y llywodraeth ar gyfer mesurau i wella diogelwch blociau tŵr.

Dywedodd y llywodraeth ganol dro ar ôl tro yn sgil tân Tŵr Grenfell, lle bo gwaith yn hanfodol i ddiogelu adeilad rhag tân, ‘y byddwn yn sicrhau na fydd diffyg adnoddau ariannol yn ei atal rhag mynd yn ei flaen.’

Pan gafodd ei holi gan Bwyllgor Cymunedau Llywodraeth Leol San Steffan, dywedodd Javid fod 31 awdurdod lleol yn Lloegr wedi gofyn am help i dalu am waith diogelu fel ôl-osod taenellwyr a bod ei adran wrthi’n trafod yn fanwl gyda chwech ohonynt.

Ond fe’i gwnaeth yn glir na fyddai unrhyw grant. Byddai’n rhaid i’r arian ddod naill ai trwy ganiatâd i fenthyca mwy o Gyfrifon Refiniw Tai cynghorau neu fel trosglwyddiad unwaith-ac-am-byth o’u Cronfa Gyffredinol.

Dywedodd yr ysgrifennydd cymunedau hefyd fod 50 o blith y 203 o deuluoedd roedd angen eu hailgartrefu ar ôl y tân wedi derbyn cartrefi parhaol, a bod 10 wedi symud i mewn.

Nod yr awdurdodau yw y dylai’r teuluoedd fod yn byw mewn llety dros-dro neu barhaol erbyn y Nadolig, a bod â chartrefi newydd parhaol o fewn blwyddyn i’r tân.

YR ALBAN

Gweithredu ar ddigartrefedd a chysgu y tu allan

Cyhoeddodd y gweinidog tai Kevin Stewart sefydlu grŵp gweithredu newydd a chronfa ‘Diweddu Digartrefedd gyda’n Gilydd’ o £50 miliwn.

Bydd y grwp yn nodi’r newidiadau fydd eu hangen er mwyn atal cysgu allan a thrawsnewid y defnydd a wneir o lety dros-dro yn yr Alban.

Y cadeirydd yw John Sparkes, prif weithredydd Crisis; mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o feysydd tai a digartrefedd, eglwysi, canolfannau cyfraith ac academyddion.

Bydd y gronfa yn gefn i’r ymrwymiad ac yn cyllido cynlluniau atal digartrefedd am y pum mlynedd nesaf.

GOGLEDD IWERDDON

Newidiadau arfaethedig i ddyrannu

Cychwynnodd yr Adran Cymunedau ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y dywed y byddant yn gwella’r modd y caiff llety cymdeithasol ei ddyrannu.

Mae cynigion i newid Cynllun Dethol Tai Gweithgor Tai Gogledd Iwerddon yn cynnwys:

  • mwy o ddewis lleoliad i bob ymgeisydd;
  • gostyngiad o dri i ddau yn nifer y cynigion rhesymol;
  • dileu pwyntiau bygwth a phwyntiau llety dros-dro cyfamserol);
  • mwy o byslais ar amserau aros trwy roi ymgeiswyr mewn bandiau yn seiliedig ar lefelau cyffelyb o angen; a
  • y dylid dyrannu eiddo arbenigol, fel llety hygyrch i gadair olwyn, trwy broses ar wahân.

Mae’r ymgynghoriad yn para tan yr 21 o Ragfyr

LLYWODRAETH CYMRU

Hwb i dai a digartrefedd yn nrafft y gyllideb

Roedd cyllid ychwanegol ar gyfer Cefnogi Pobl a mynd i’r afael â digartrefedd, mwy o arian ar gyfer tai fforddiadwy, a diwygio’r dreth ar werthu tai oll yn nrafft gyllideb yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford

Cyhoeddwyr y drafftiau o’r cyllidebau ar gyfer 2018/19 a 2019/20 yn sgîl cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Clustnodir £10 miliwn ychwanegol ar gyfer Cefnogi Pobl yn y naill a’r llall o’r ddwy flynedd nesaf, gan gynnal y cyllido ar lefelau 2017/18, a cheir £10 miliwn ychwanegol hefyd ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd yn y naill flwyddyn a’r llall.

Mae cynlluniau cyfalaf y tair blynedd tan 2019/20 yn cynnwys rhyddhau £340 miliwn fel rhan o fuddsoddiad £1.4 biliwn y Llywodraeth tuag at ei hymrwymiad i godi 20,000 o dai fforddiadwy.

Yn y gyllideb gyntaf lle gallod Cymru ddefnyddio’i phwerau trethu a benthyca, cyhoeddodd y gweinidog fanylion am y dreth trafodiadau tir newydd (TTT) a fydd yn cymryd lle’r dreth stamp yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

Ar y cyfraddau newydd, ni fydd prynwyr tro-cyntaf ar gyfartaledd yn talu dim treth, a phrynwyr cartrefi gwerth hyd at £400,000 yn talu’r un faint neu lai na chynt.

Fodd bynnag, rhybuddiodd yr Athro Drakeford y byddai parhad polisi llymder llywodraeth y DU yn golygu toriadau o 7 y cant i gyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2010 a diwedd y degawd a bod toriadau pellach yn dal i fod yn yr arfaeth ar gyfer 2019/20.

Datgelu cyfraddau treth newydd

Caiff Cymru ei threthi cyntaf ers bron 800 mlynedd pan ddisodlir treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi gan y dreth trafodiadau tir (TTT) a’r dreth gwarediadau tirlenwi (TGT) yn Ebrill 2018.

Golyga’r cyfraddau newydd ar gyfer TTT y bydd gan Gymru’r trothwy uchaf yn y DU o ran treth ar drafodiadau tai. Ni fydd prynwyr cartrefi gwerth £150,000 neu lai yn talu dim treth.

Bydd y dreth yn cychwyn ar raddfa o 2.5 y cant ar gartrefi gwerth £150,000 i £250,000 ac yn codi o 2.5 pwynt canran ar drothwyon o £250,000, £400,000 a £750,000 cyn cyrraedd uchafswm o 12 y cant ar gartrefi gwerth mwy nag £1.5 miliwn.

Dywed y Llywodraeth y bydd naw o bob deg prynwr yng Nghymru’n talu naill ai’r un faint neu lai o dreth na chynt.

Bydd y TGT yn aros yn unol â’r dreth dirlenwi am y ddwy flynedd gyntaf a phennir cyfradd ar gyfer gwarediadau heb awdurdod o 150 y cant o’r gyfradd safonol.

Meddai’r ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford: ‘Bydd y cyfraddau a’r bandiau blaengar newydd hyn mewn treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi tir yn gwneud gwahaniaeth; yn helpu i newid ymddygiad a dod â gwelliannau i gymunedau ledled Cymru. Trwy fod yn feiddgar ond yn gytbwys, rydym yn arwain y ffordd wrth greu system dreth deg a blaengar.

Cyhoeddodd hefyd restr fer o bedwar o syniadau pellach ar gyfer trethi newydd o dan bwerau Deddf Cymru 2014.

Y syniadau a archwilir ymhellach yw treth ar dir gwag, treth ar ddeunydd plastig untro, treth dwristiaeth, ac ardoll i gefnogi gofal cymdeithasol

Mwy o gartrefi yn cwrdd â SATC

Cynyddodd y gyfran o gartrefi cymdeithasol sy’n cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) i 86 y cant erbyn diwedd Mawrth 2017, cynnydd o saith pwynt canran ers y llynedd, yn ôl y stategau swyddogol.

Gwelloddodd lefelau cydymffurfio tai cymdeithasol, gyda 66 y cant o stoc awdurdodau lleol a 99 y cant o stoc landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cwrdd â SATC. Mae’r ddau ffigwr yn cynnwys “methiannau derbyniol”, sydd ond yn bosibl ar gyfer elfennau unigol yn hytrach nag adeiladau yn eu crynswth.

Nod SATC yw sicrhau bod yr holl gartrefi a ddarperir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn ddiogel ac yn cynnig amwynderau modern.

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £108 miliwn y flwyddyn i helpu pob landlord cymdeithasol i gydymffurfio â SATC erbyn 2020. Meddai’r ysgrifennydd cymunedau a phlant, Carl Sargeant: ‘Bydd Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicrhau bod gan fwy nag 220,000 o aelwydydd yng Nghymru gartref sy’n ddiogel ac yn glyd. Mae hefyd yn hollbwysig o ran cyflawni nifer o’n nodau eraill fel Llywodraeth gan gynnwys gwella iechyd a lles y genedl. Gall buddsoddi mewn gwella ac adeiladu cartrefi arwain hefyd at greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn ein cymunedau a’n helpu i feithrin cymdeithas ffyniannus.

£30m ychwanegol mewn benthyciadau i adeiladwyr bach

Cyhoeddodd yr ysgrifennydd cymunedau a phlant Carl Sargeant £30 miliwn ychwanegol ar gyfer Cronfa Ddatblygu Eiddo Cymru.

Mae’r gronfa fenthyciadau yn galluogi mentrau bychain a chanolig eu maint i allu bethyca cyllid fforddiadwy, gyda’r nod o’u helpu i godi mwy o gartrefi.

Mae’r gronfa, a redir gan Gyllid Cymru, yn helpu cwmnïau adeiladu sy’n methu bethyca ar gyfraddau fforddiadwy o ffynonellau traddodiadol, i gychwyn projectau newydd.

Eglurodd Carl Sargeant:

‘Cafodd adeiladwyr bach a chanolig eu maint (SME) eu hergydio gan yr argyfwng economaidd byd-eang ac maent yn dal i ddioddef. Gobeithio y bydd ehangu’r Gronfa Datblygu Eiddo yn cael effaith sylweddol drwy helpu adeiladwyr cartrefi SME ac annog mwy o gwmnïau lleol i fynd yn ddatblygwyr. Mae gennym darged uchelgeisiol o godi 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon. Wrth weithio tuag at ein targed, rwyf am weld cynifer o gartrefi â phosib yn cael eu darparu gan gwmnïau SME, gan greu grym newydd yn y sector.’

Papurau ymgynghori

Mae’r papurau ymgynghori agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

• Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr

– Ymatebion erbyn 21 Rhagfyr

• Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 – Eiddo ffit i bobl fyw ynddo

– Ymatebion erbyn 1 Ionawr 2018

Mae’r ymgynghoriadau arlein yn ymgyngoriadau.llyw.cymru/

CYMRU

Project yn ennill y loteri

Mae Cymdeithas Tai Newydd wedi derbyn £769,000 gan Gronfa Pawb a’i Le y Loteri Fawr i ehangu ei phroject iechyd a lles ledled Rhondda Cynon Taf.

Cychwynnodd y project hwn fel peilot yn 2015 pan dderbyniwyd £238,000 gan yr un gronfa i helpu mwy nag 800 o bobl yn Rhydyfelin a Hawthorn i wella eu hiechyd a’u lles.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar ôl rhagori ar ei dargedau drwy weithio gyda mwy na 1,400 o bobl, bydd y project yn darparu gwasanaeth cyfannol ar gyfer cyfranogwyr trwy lenwi bylchau yn y gwasanaethau iechyd a lles, ac atgyfeirio cyfranogwyr i ddarpariaeth leol lle bo angen.

Yn sgil y cais llwyddiannus am arian o Gronfa’r Loteri Fawr, bydd y tim yn dal i weithio o Hyb Cymuned Newydd yn Rhydyfelin, gan gynnig cymorth ychwanegol i breswylwyr yn Nhonteg, y Beddau, Llantrisant a Chwm Cynon hefyd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys darparu mentrau bwyta iach, gweithgareddau corfforol, hyfforddiant gwaith, cyfleoedd i wirfoddoli, a gweithdai lles emosiynol ar reoli straen a meithrin hyder.

Gan danlinellu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Rona Aldrich, aelod pwyllgor Cymru Cronfa’r Loteri Fawr: ‘Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’n cyflawni ein haddewid i ddefnyddio cyllid y Loteri Fawr i adfywio ac ailfywiogi cymunedau, mynd i’r afael yn uniongyrchol ag anfantais, a gadael etifeddiaeth barhaol.’

Meddai Paul Roberts, prif weithredydd Newydd: ‘Dwi wrth fy modd i’r project hwn gael estyniad. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthym ei fod wedi gwneud gwahaniaeth anferth i’w bywydau, ac mae’r ffaith y gallwn bellach gynnig cefnogaeth i 5,500 o bobl yn y pum mlynedd nesaf yn wych. Byddwn yn recriwtio mwy o staff yn y misoedd nesaf ac yn edrych ymlaen at fwrw ati yn ddioed.’

Cyllid newydd ar gyfer hyfforddi mewn sgiliau

Mae Lovell yn bwriadu creu 40 o brentisiaethau a 140 o leoliadau profiad gwaith yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr trwy fenter hyfforddiant diwydiannol genedlaethol.

Dyfarnwyd statws Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Adeiladu i Lovell gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu i gydnabod ei arbenigedd mewn darparu hyfforddiant a sgiliau adeiladu mewn cymunedau lleol. Dros y pedair blynedd nesaf bydd Lovell yn derbyn arian i gyllido swydd cydlynydd sgiliau project newydd a fydd yn helpu i gydlynu hyfforddiant ar ei datblygiadau tai ledled de Cymru a de-orllewin Lloegr.

Mae pedwar prentis newydd eisoes wedi elwa ar statws academi, trwy’r rhaglen ‘Ewch ati i Adeiladu’ ar y cyd rhwng yr Academi Sgiliau ac Ymddiriedolaeth y Tywysog, â’r bwriad o helpu pobl leol ddiwaith i ddod o hyd i swyddi. Cafodd y pedwar o dan hyfforddiant eu cyflogi yn Y Felin, Treganna, datblygiad tai gwerth £100 miliwn yng ngorllewin Caerdydd. Bydd un prentis yn hyfforddi gyda Lovell a thri yn bwrw prentisiaeth gydag is-gontractwyr y cwmni. Rhoddwyd £150 yr un i’r prentisiaid hefyd i brynu offer, gan yr elusen leol, Action in Caerau and Ely (ACE).

Lluniau, o’r chwith i’r dde yn Y Felin: Cydlynydd Academi Sgiliau Genedlaethol Lovell Nicola Murray; Elija Chilekwa, prentis gydag is-gontracwr Lovell, JLS Electrical; Liam Douglas, prentis gydag is-gontracwr Lovell, QDL Contractors; Lizzie Williams, prentis Lovell; a Maisey Andrew, ACE.

 

CYHOEDDIADAU: 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) Homelessness projections: Core homelessness in Great Britain (2017)

Crisis, Awst 2017

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/types-of-homelessness/homelessness-projections-core-homelessness-in-great-britain-2017/

2) The Development and Implementation of Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014: Lessons for policy and practice in Wales

Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, Gorffennaf 2017

ppiw.org.uk/ppiw-report-publication-the-development-and-implementation-of-part-2-of-the-housing-wales-act-2014-lessons-for-policy-and-practice-in-wales/

3) Home Affront: housing across the generations

Sefydliad Resolution, Medi 2017

www.resolutionfoundation.org/publications/home-affront-housing-across-the-generations/

4) Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Y Cynulliad Cenedlaethol, Awst 2017

www.assembly.wales/laid documents/cr-ld11151/cr-ld11151-w.pdf

5) After Brexit: Regional Economic Policy in Wales

Sefydliad Bevan a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Hydref 2017

www.bevanfoundation.org/news/2017/10/joint-call-devolution-shared-prosperity-fund-wales/

6) Shared Services in Local Government

Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, Medi 2017

ppiw.org.uk/ppiw-report-publication-shared-services-in-local-government/

7) Building Bridges: A guide to better partnership working between local authorities and housing associations

Y Sefydliad Tai Siartredig, Medi 2017

www.cih.org/publication-free/display/vpathDCR/templatedata/cih/publication-free/data/Building_Bridges_Full_Report

8) Universal Credit and Debt

Cyngor ar Bopeth, Medi 2017

www.citizensadvice.org.uk/about-us/policy/policy-research-topics/debt-and-money-policy-research/universal-credit-and-debt/

9) Poverty, Evictions and Forced Moves

Sefydliad Joseph Rowntree, Gorffennaf 2017

www.jrf.org.uk/report/poverty-evictions-and-forced-moves

10) Welsh Government Budgetary Trade-Offs: Looking forward to 2021/22

Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, Medi 2017

www.walespublicservices2025.org.uk/2017/09/21/welsh-government-budgetary-trade-offs-looking-forward-to-2021-22/


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »