English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Y DU

Consesiynau Credyd Cynhwysol yn y Gyllideb

Cyhoeddodd y Canghellor Philip Hammond gyfres o newidiadau i Gredyd Cynhwysol yng Nghyllideb yr Hydref, yn cynnwys dileu’r cyfnod aros saith-diwrnod, ei gwneud hi’n haws sicrhau blaen-daliadau, a chaniatáu i fudd-dâl tai barhau i gael ei dalu am ddwy wythnos ar ôl cais am gredyd cynhwysol. Bu oedi pellach gyda’r broses o gyflwyno CC hefyd.

Fodd bynnag, gwrthododd y canghellor ddadleuon o blaid dad-rewi budd-daliadau, sy’n golygu y bydd Lwfans Tai Lleol i denantiaid preifat yn aros yr un fath tan 2020, waeth beth fydd yn digwydd i renti.Yn hytrach, ehangodd y Gronfa Fforddiadwyedd Dargededig ar gyfer ardaloedd dan bwysau rhenti uchel â chyllid gwerth £430m erbyn 2022/23.Cadarnhaodd y Gyllideb hefyd y tro-pedol ar y cap LTLl ar gyfer tai cymdeithasol a llety â chymorth a gyhoeddwyd yn fuan wedi i rifyn mis Hydref WHQ fynd i’r wasg.

Gweler yr erthygl ar ddiwygio lles

McVey yn dychweled i’r AGP

Dilynodd Esther McVey David Gauke fel ysgrifennydd gwaith a phensiynau pan ad-drefnwyd y Cabinet yn San Steffan ym mis Ionawr.

Fel gweinidog gwladol yn yr AGP rhwng 2013 a 2015, roedd yn un o gefnogwyr brwd y dreth stafell wely. Collodd ei sedd yn etholiad cyffredinol 2015 cyn dychweled i’r senedd yn 2017.

LLOEGR

Dileu’r doll stamp ar gyfer prynwyr tro-cyntaf

Y cyhoeddiad mawr ar gyfer Lloegr yn y Gyllideb oedd dileu’r doll stamp ar brynu tai gwerth hyd at £300,000 (neu ar y £300,000 cyntaf gyda chartrefi gwerth hyd at £500,000) gan brynwyr tro-cyntaf.

Cyflwynwyd hyn fel rhan o gyrch Theresa May i adfer ‘breuddwyd perchentyaeth’, a dadleuai gweinidogion y golygai na fyddai 95 y cant o brynwyr tro-cyntaf yn talu dim toll stamp.

Dadleuai beirniaid y byddai hyn yn cynyddu prisiau tai ac yn gwobrwyo’r rhai a fyddai wedi gallu fforddio prynu p’run bynnag.

Mewn rhan arall o’r Gyllideb, cadarnhaodd y canghellor y ceid £2 biliwn ychwanegol ar gyfer tai fforddiadwy fel yr addawodd y prif weinidog yn ei haraith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym mis Hydref, ond datgelai’r print mân y deuai hynny o arian a gawsai ei glustnodi’n flaenorol ar gyfer cartrefi cychwynnol a rhaglenni eraill.

Rhaid i ddiwylliant diogelwch tân newid, medd arolwg

Dydy rheoliadau diogelwch tân ‘ddim yn addas i’r diben’ ac mae’r canllawiau’n ‘gymhleth ac yn aneglur’ yn ôl casgliadau interim arolwg annibynnol o reoliadau adeiladu a diogelwch a sefydlwyd yn sgil tân Tŵr Grenfell.

Galwai’r arolwg, a gadeiriwyd gan y Fonesig Judith Hackitt, am ‘weithredu gan y diwydiant cyfan a’r rhannau hynny o’r llywodraeth sy’n ei oruchwylio’ ac am ‘newid cyffredinol yn y diwylliant.’

Nid chynigir argymhellion penodol, er enghraifft ar chwistrellwyr, dim ond pennu ‘cyfeiriad taith’ ar gyfer yr adroddiad terfynol.

Tai i fyny ac i lawr yn yr ad-drefnu

Mae gan Loegr weinidog Cabinet llawn â’r gair ‘tai’ yn ei deitl am y tro cyntaf ers 50 mlynedd bron yn sgil yr ad-drefnu ym mis Ionawr.

Mae Sajid Javid yn parhau i fod yn ysgrifennydd gwladol, ond ar gyfer y Weinidogaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn hytrach na’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Bwriedid i’r enw newydd gyfleu bod llywodraeth y DU yn rhoi’r un pwyslais ar y mater hwn ag yn y 1950au a’r 1960au.

Fodd bynnag, yn union wedi cadarnhau’r enw newydd, cafodd Alok Sharma, y gweinidog tai, ei symud ar ôl dim ond saith mis yn y swydd.

Ag yntau wedi ei benodi ychydig cyn tân Tŵr Grenfell, bu’n treulio llawer o’i amser yn gwrando ar denantiaid, cyn cynhyrchu papur gwyrdd ar dai cymdeithasol.

Cymerwyd lle Sharma, y gweinidog gwaith a phensiynau newydd, gan y Brexitwr blaenllaw Dominic Raab.

YR ALBAN

Y llywodraeth yn cynyddu’r gyllideb tai fforddiadwy

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban gynnydd o 28 y cant yn ei Rhaglen Cyflenwad Tai Fforddiadwy ar gyfer 2018/19 yn ei Chyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr.

Cyllid cyfalaf ar gyfer tai cymdeithasol newydd yn bennaf yw rhyw £523 miliwn o’r arian, 70 y cant o’r cyfanswm, sydd yn £147 miliwn yn fwy nag yn 2017/18.

Dywedodd Holyrood bod gwariant y pen trwy’r Rhaglen Cyflenwad Tai Fforddiadwy yn fwy na theirgwaith eiddo Lloegr, sef £555 o’i gymharu â £165.

Cyflwynodd y Gyllideb Ddrafft eithriad newydd i’r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT) ar gyfer prynwyr tro-cyntaf sy’n prynu cartrefi gwerth hyd at £175,000. Dywedodd y Llywodraeth y golygai hynny na fyddai 80 y cant o brynwyr tro-cyntaf yn talu dim LBTT.

GOGLEDD IWERDDON

Beirniadu sut yr ymdrinir â digartrefedd

‘Llwyddiant cyfyngedig’ oedd strategaeth Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon (NIHE) i leihau digartrefedd, yn ôl corff craffu ariannol y llywodraeth.

Dywedodd Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon y costiodd digartrefedd £300 miliwn i bwrs y wlad rhwng 2012 a 2017, ac y cynyddodd digartrefedd statudol o 32 y cant, i effeithio ar fwy na 12,000 o aelwydydd yn 2016/17.

Dywedodd yr adroddiad na allai NIHE arddangos yn llawn beth oedd effaith ei waith ar leihau digartrefedd.

Roedd y problemau’n cynnwys gwendidau wrth ddadansoddi, dehongli a chyflwyno data, a diffyg tystiolaeth i egluro pam y mae cyfraddau derbyn digartrefedd statudol yn uwch nag yng ngwledydd eraill y DU.

LLYWODRAETH CYMRU

Cymeradwyo diddymu’r Hawl i Brynu

Cafodd y Mesur i ddiddymu’r Hawl i Brynu yng Nghymru gymeradwyaeth derfynol yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Rhagfyr, gan baratoi’r ffordd iddo fynd ymlaen i dderbyn Cydsyniad Brenhinol.

Cafodd Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 ei gyflwyno ym mis Mawrth gyda’r nod o ddiogelu’r stoc tai cymdeithasol.

Mae’r ddeddf yn caniatáu blwyddyn o leiaf ar ôl y Cydsyniad Brenhinol cyn diddymu’r hawl ar eiddo presennol. Ond, er mwyn annog buddsoddi mewn cartrefi newydd, gyda chartrefi sy’n newydd i’r stoc tai cymdeithasol, ac sydd felly heb denantiaid, daw’r hawl i ben ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol.

Croesawodd y gweinidog tai ac adfywio, Rebecca Evans, fesur a fyddai, meddai, ‘yn diogelu’r buddsoddiad a wnaed mewn tai cymdeithasol dros genedlaethau lawer’ gan roi i landlordiaid cymdeithasol yr hyder i fuddsoddi mewn cartrefi newydd.

Talodd deyrnged i’w rhagflaenydd hefyd: ‘Hoffwn ddweud mor falch fyddai Carl Sargeant wedi bod i weld y Mesur yn cyrraedd y cam terfynol hwn. Credai’n angerddol mewn diogelu ein stoc tai cymdeithasol er budd y mwyaf anghenus, a gweithiodd yn eithriadol o galed i ddod â’r ddeddfwriaeth gerbron. Dwi wrth fy modd i allu helpu i’w lywio trwy’r camau terfynol i’w roi ar Lyfr Statud Cymru.

Gweler yr erthygl nodwedd, Cofio Carl Sargeant

Gweinidog yn croesawu 6% yn fwy o gartrefi fforddiadwy

Nododd awdurdodau lleol gynnydd o 6 y cant yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, gyda 2,547 o gartrefi wedi eu darparu ledled Cymru.

Darparodd cymdeithasau tai 93 y cant o’r rhain (2,378 o gartrefi), a oedd hefyd yn gynnydd o 6 y cant.

Darparwyd 5 y cant (121 o gartrefi cymdeithasol i’w rhentu) gan awdurdodau lleol, a’r 2 y cant arall gan ddarparwyr eraill, yn cynnwys cartrefi perchentyaeth cost-isel a ddarparwyd gan awdurdodau lleol trwy gyfrwng cytundebau adran 106.

Yn ei grynswth, cynyddodd nifer y cartrefi fforddiadwy a ddarparwyd â chyllid grant cyfalaf o 3 y cant, i 1,810, tra bu cynnydd o 16 y cant yn y nifer a ddarparwyd heb grant.

Adeiladwyd 689 o’r cartrefi ar dir cyhoeddus, pumed rhan yn llai nag yn 2015/16.

Codi trothwy’r Dreth Trafodiadau Tir

Ni fydd prynwyr cartrefi gwerth hyd at £180,000 yn talu treth wedi i’r Dreth Trafodiadau Tir ddod i rym ym mis Ebrill, cyhoeddodd yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford ym mis Rhagfyr.

Daeth y cynnydd o’r trothwy blaenorol o £150,000 yn sgil dileu’r doll stamp yn Lloegr ar gyfer prynwyr tro-cyntaf ar gartrefi gwerth hyd at £300,000.

Bydd y trothwyon uwch yn y dreth newydd ddatganoledig yn cynnwys unrhyw un sy’n prynu tŷ, nid dim ond prynwyr tro-cyntaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r newidiadau’n golygu:

  • na fydd neb yn talu mwy nag y byddent o dan y cyfraddau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft mis Hydref
  • bydd prynwyr yng Nghymru yn talu dros £500 yn llai o dreth ar gyfartaledd nag o dan dreth tir y doll stamp
  • bydd 90% o brynwyr yng Nghymru yn talu’r un faint neu lai o dreth nag o dan dreth tir y doll stamp
  • ni fydd tua 80% o brynwyr tro-cyntaf yng Nghymru yn talu dim treth – yr un gyfran ag a fydd yn elwa ar eithriad treth tir y doll stamp y canghellor i brynwyr tro-cyntaf yn Lloegr.

Galw am weithredu i atal digartrefedd

Mae angen mwy o waith i atal digartrefedd, er gwaetha’r llwyddiant hyd yn hyn, meddai Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

Dywedodd adroddiad gan y Swyddfa Archwilio bod llawer o’r hyn sy’n achosi digartrefedd y tu allan i reolaeth cynghorau a Llywodraeth Cymru, ac o dan ddylanwad penderfyniadau San Steffan.

Fodd bynnag, dywed y gall awdurdodau lleol wneud mwy i wella’u gwasanaethau, a chafodd bod ymateb cynghorau i’w dyletswyddau atal newydd yn Neddf Tai (Cymru) yn amrywio’n eang.

Cafodd SAC hefyd, tra bod cyllid grant gan Lywodraeth Cymru wedi cynorthwyo awdurdodau lleol i weithredu eu dyletswyddau newydd, bod cyfanswm y cyllid ar gyfer digartrefedd a gwasanaethau cynghori ar dai wedi lleihau mewn termau real.

Tra bod data cenedlaethol yn dangos llwyddiannau o ran atal digartrefedd, dywed SAC bod ‘lefelau gwaith ataliol llwyddiannus yn dechreu gostwng a’r niferoedd a fygythir gan ddigartrefedd ac sydd ag angen llety dros-dro yn cynyddu.

Pleidleisio ar y Gyllideb Derfynol

Roedd llygaid pawb ar y gyllideb Cefnogi Pobl wrth i’r Cynulliad Cenedlaethol baratoi i bleidleisio ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2018/19 wrth i WHQ fynd i’r wasg.

Cawsai’r cyllid hwn ei neilltuo hyd yma ond ym mis Hydref, disgrifiodd y Llywodraeth gynlluniau ar gyfer Projectau Braenaru Ariannu Hyblyg a fyddai’n rhoi hyblygrwydd gwario 100 y cant i saith awdurdod lleol dros ddeg o raglenni cyllido y flwyddyn nesaf, yn cynnwys Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a rhaglenni eraill anghysylltiedig â thai.

Yn yr un mis, cyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft heb linell gyllido benodol ar gyfer Cefnogi Pobl yn 2019/20. Dywedai gweinidogion nad oedd dim wedi ei benderfynu, ond dadleuai beirniaid bod hyn yn torri’r cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru a ddiogelai’r cyllid am ddwy flynedd.

Roedd Cymorth Cymru wrthi’n cysylltu ag ACau cyn y bleidlais i fynegi ei bryder a galw sylw at yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr pan ddilewyd y trefniant neilltuo.

CYHOEDDIADAU: 8 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) Gwerthuso Tai Gofal Ychwanegol yng Nghymru

Prifysgol Sheffield Hallam ar gyfer Llywodraeth Cymru, Hydref 2017

http://gov.wales/docs/caecd/research/2017/171005-evaluation-extra-care-housing-cy.pdf

2) Ending Rough Sleeping: What Works? An international evidence review

Crisis, Rhagfyr 2017

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/services-and-interventions/ending-rough-sleeping-what-works-an-international-evidence-review/

3) After Brexit: housing the nation

Sefydliad Bevan gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, Rhagfyr 2017

www.bevanfoundation.org/publications/brexit-housing-nation/

4) UK Poverty 2017

Sefydliad Joseph Rowntree, Rhagfyr 2017

www.jrf.org.uk/report/uk-poverty-2017

5) Room to improve: The role of home adaptations in improving later life

Y Ganolfan Heneiddio’n Well, Tachwedd 2017

www.ageing-better.org.uk/publications/room-improve-role-home-adaptations-improving-later-life

6) Local authority direct provision of housing

Coleg Prifysgol Llundain ar gyfer y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Rhagfyr 2017

www.rtpi.org.uk/media/2619006/Local-authority-direct-provision-of-housing.pdf

7) The Land Question: fixing the dysfunction at the root of the housing crisis

Civitas, Tachwedd 2017

civitas.org.uk/publications/the-land-question/

8) Priced Out: Affordable Housing in England

Y Sefydliad Ymchwil i Bolisi Cyhoeddus, Tachwedd 2017

www.ippr.org/research/publications/priced-out-england


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »