English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Golygyddol

Roedd rhoi’r Cydsyniad Brenhinol i’r ddeddf tai Gymreig gyntaf erioed ym mis Medi 2014 yn foment hanesyddol am bob math o resymau, ond mewn rhai ffyrdd, dyna’r rhan hawdd. Roedd yn amlwg y byddai ei gweithredu yn orchwyl cymhleth, ac mae’r rhifyn hwn o WHQ yn edrych ar ei hynt hyd yn hyn.

Mae’r arwyddion cynnar yn bositif yhn wir o ran y darpariaethau atal digartrefedd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2015. Mae’r adran nodwedd arbennig yn y rhifyn hwn yn edrych yn fwy manwl ac yn ehangach ar ei heffaith gyda chanlyniadau o’r darn cyntaf o waith ymchwil i holi barn pobl ddigartref eu hunain am y system newydd, ac adroddiad am ddiddordeb cynyddol yn y ‘Ffordd Gymreig’ yng ngweddill y DU.

Mae’n dal yn ddyddiau cynnar o ran adran fwy dadleuol o’r Ddeddf, sef cofrestru a thrwyddedu yn y sector rhentu preifat. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru oedd diwedd Tachwedd 2016, ac erys cwestiynau allweddol ynglŷn â’r gofrestr a gorfodaeth yn erbyn landlordiaid ac asiantiaid sydd heb ufuddhau. Mae’r adran nodwedd yn cynnwys safbwyntiau cyferbyniol Rhentu Doeth Cymru ei hun, landlordiaid a thenantiaid, ac adroddiad ar yr achos cyfreithiol cyntaf o dan y gyfundrefn newydd.

Mewn dewis arall ar gyfer polisi digartrefedd yn y dyfodol, cychwynnodd Housing First yn yr Unol Daleithau ond mae eisoes yn cydio ledled Ewrop. Mae Tamsin Stirling yn myfyrio ar drip i’w weld ar waith yn Lille yn Ffrainc tra bod Matt Kennedy yn edrych ar y system lwyddiannus yn y Ffindir.

Mae uchafbwyntiau eraill y rhifyn yn cynnwys adroddiadau gan Sharon Lee ar y cyfraniad y gall eglwysi Cymru ei wneud ym maes tai a mynd i’r afael â digartrefedd, Paul Diggory ar baratoadau tai yng Nghaergybi ar gyfer rhaglen Ynys Ynni anferth Sir Fôn, a Ken Gibb ar ddatblygiadau diweddaraf polisi tai yn yr Alban.

Mae gennym erthyglau hefyd o Sir Fynwy am ffordd newydd o fynd ati gyda chartrefi newydd ac o Wynedd ar effeithiau trosglwyddo stoc, a’r diweddaraf ynglŷn â chydweithio a gwaith ar y cyd rhwng iechyd a thai.

Yn olaf, ond nid lleiaf o bell ffordd, diwedd 2016 oedd tymor y gwobrau tai. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys erthygl arbennig ar enillwyr Gwobrai Tai Cymru ac mae hefyd yn adrodd ar y Gwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth.

Dymuniadau gorau am 2017 gynhyrchiol. Cyhoeddir rhifyn nesaf WHQ ym mis Ebrill.

Jules Birch

Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »