English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Lle i’w alw’n gartref

Mae’r argyfwng tai bellach yn effeithio ar bob rhan o’r DU a Chymru, fel y mae’r cynnydd diweddar mewn digartrefedd a chysgu allan yn ei gwneud hi’n gwbl amlwg.

Fodd bynnag, mae’n argyfwng neilltuol o ddifrifol i bobl ifanc. Ychwanegwch brisiau tai anfforddiadwy at denantiaethau preifat ansicr a phrinder tai cymdeithasol, cymysgwch hynny â diwygiadau lles a methiant rhwydweithiau cymdeithasol, a dim rhyfedd bod y gyfundrefn tai yn dangos cymaint o arwyddion o straen.

Mae’r nodwedd arbennig yn y rhifyn Gwanwyn hwn o WHQ yn agor gydag adroddiad Hugh Russell ar hynt ymgyrch Diweddu Digartrefedd Ieuenctid Cymru. Fe edrychwn hefyd ar beth sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r byd yn erthygl Tamsin Stirling ar ymweliad astudio â’r Unol Daleithau a Chanada. Fel y dywedodd un llefarydd yn Los Angeles: ‘Ellwch chi ddim diweddu digartrefedd heb ddiweddu digartrefedd ieuenctid.’

Ond beth yw dymuniad pobl ifanc ynglŷn â thai? ‘Rhywle sy’n perthyn i fi’ a ‘rhywlediogel i fyw’ oedd ymateb y mwyafrif llethol yn y project Deffro i Newid ond, fel y noda Sam Austin a Samantha Howells, mae diffyg cysylltiad rhwng yr hyn mae gweithwyr tai proffesiynol yn ei feddwl â’r hyn mae pobl ifanc yn ei deimlo.

Rydym yn adrodd hefyd ar amrywiaeth o atebion arloesol a ddatblygwyd ledled Cymru gan gymdeithasau tai, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol.

Y neges gan broject Own 2 Feet…Living Bron Afon yw mai pobl ifanc yw’r allwedd. Mae Lisa Charles yn egluro mwy am y cynllun dan arweiniad pobl ifanc sydd â’r nod o gefnogi pobl ifanc tuag at fod yn annibynnol.

Yn y cyfamser, dywed Sadie O’Connor mai gweld pethau o safbwynt pobl ifanc a ysgogodd Caerffili i wella ei ddarpariaethau tai a digartrefedd ar eu cyfer.

Ond ceir rhagor hefyd am gynllun peilot rhannu tai Rooms4U, a’r hyn mae landlordiaid yn ei wneud yn y gymuned ac mewn ysgolion i roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc.

Yn y brif nodwedd arall yn y rhifyn hwn, mae WHQ yn cyfweld â’r gweinidog tai ac adfywio, Rebecca Evans. Mae’n sôn am ei hagenda ar draws amrywiaeth eang o faterion gwahanol, gan roi awgrym i ddarllenwyr o newidiadau sydd i ddod.

Rydym yn canolbwyntio hefyd ar newidiadau yn llywodraethiant cymdeithasau tai, gyda golwg ar y weledigaeth a ddatblygwyd gan y Bwrdd Rheoleiddio a’r cod newydd a lansiwyd ar gyfer ymgynghoriad gan Cartrefi Cymunedol Cymru.

Cyhoeddir WHQ yn union cyn TAI 2018 ac mae’n cynnwys rhagolwg bach slei ar rai o’r sesiynau ac arweiniad llawn i’r gynhadledd a gynhelir o’r 24 i’r 26 o Ebrill. Gobeithio y gwela’i chi yno.

Jules Birch, Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »