English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R

Y DU

Ymrwymiad i fynd i’r afael â cham-drin domestig

Mae mwy na 150 o sefydliadau tai o bob cwr o’r DU wedi ymuno ag ymgyrch i fynd i’r afael â cham-drin domestig a hyrwyddir gan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH).

Mae ‘Make a Stand’, a lansiwyd mewn partneriaeth â Chymorth i Fenywod a Chynghrair Tai Cam-drin Domestig, yn galw ar sefydliadau tai i ymrwymo i roi polisïau ar waith ar gam-drin domestig ar gyfer eu preswylwyr a’u staff, cyhoeddi gwybodaeth ar wasanaethau cam-drin domestig lleol a chenedlaethol, a phenodi uwch-swyddog yn y sefydliad i arwain y gwaith. Wrth siarad yng nghynhadledd CIH ym Manceinion ym mis Mehefin, galwodd llywydd CIH Alison Inman yr ymateb yn ‘wirioneddol anhygoel’.

Dywedodd: ‘Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni gael polisïau ar bob math o bethau, fel dyraniadau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol ond, yn anhygoel, ddim ar gam-drin domestig. Nid yw dyraniadau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn lladd dwy fenyw yr wythnos – fel y mae cam-drin domestig yn gwneud. Dylai pob un ohonom fod â pholisi a dylem sicrhau bod gan ein timau y sgiliau a’r hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu adnabod, cofnodi a delio ag achosion o gam-drin domestig.’

LLOEGR

Darganfod mwy o flociau preifat â chladin anniogel

Mae’r llywodraeth wedi dyblu ei amcangyfrif o’r nifer o flociau tŵr preswyl preifat yn Lloegr y credir bod ganddynt gladin anniogel.

Yn natganiad data mis Mehefin ei Rhaglen Diogelwch Adeiladu, dywed y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bod gan gyfanswm o 470 o adeiladau uchel systemau cladin Deunyddiau Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) sy’n annhebygol o fodloni canllawiau Rheoliadau Adeiladu cyfredol.

Mae hynny’n cynnwys 314 sydd eisoes wedi methu profion graddfa-fawr ar systemau waliau – 159 o flociau tai cymdeithasol, 141 o flociau tai preifat a 14 adeilad mewn meddiant cyhoeddus – ynghyd â 156 o flociau preifat eraill y nodwyd gan awdurdodau lleol fod ganddynt systemau ACM tebyg.

Mae hyn yn cymharu â chyfanswm o 159 o flociau tai cymdeithasol a 138 o flociau preifat a nodwyd yn natganiad data mis Mai. Ar yr 20fed Mehefin, roedd gwaith adfer wedi dechrau ar 111 o’r 159 o’r adeiladau tai cymdeithasol (70 y cant) ac wedi ei gwblhau ar 15.

Ond dim ond ar 21 o’r 297 o adeiladau preifat (7 y cant) roedd y gwaith wedi dechrau a dim ond ar bedwar roedd wedi ei gwblhau.

Cyhoeddodd yr ysgrifennydd tai, James Brokenshire, dasglu newydd i oruchwylio gwaith adfer yn y sector preifat, tîm arolygu newydd a gefnogir gan £1 miliwn o gyllid gan y llywodraeth, ynghyd â llythyron at berchnogion adeiladau i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau.

Dywedodd: ‘Rwyf wedi dweud yn glir y dylai prydleswyr gael eu hamddiffyn rhag costau annheg ac rydym yn disgwyl i’r diwydiant wneud y peth iawn. Oni wnânt, byddaf yn parhau i archwilio llwybrau eraill ac nid wyf yn diystyru dim.’

Yn gynharach ym mis Mehefin, cyhoeddodd yr Adran ymgynghoriad ar wahardd cladin llosgadwy trwy’r Rheoliadau Adeiladu.

YR ALBAN

Taenellwyr yn orfodol mewn tai cymdeithasol newydd

Bydd Llywodraeth yr Alban yn deddfu i wneud systemau taenellu yn orfodol mewn tai cymdeithasol newydd.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Kevin Stewart, y byddai Holyrood yn bwrw ymlaen â bil aelod a gynigiwyd gan David Stewart ASA i wneud taenellwyr yn ofyniad cyfreithiol.

Ar hyn o bryd mae’n rhaid i bob adeilad preswyl newydd â llawr yn uwch na 18m, boed gymdeithasol neu breifat, fod â systemau atal tân awtomatig,.

Meddai Kevin Stewart: ‘Mae hwn yn gyfle i wella safonau yn ein tai cymdeithasol ymhellach a bwrir ymlaen â’r gwaith hwn ochr yn ochr ag argymhellion y ddau adolygiad o safonau adeiladu a diogelwch tân y byddwn yn ymgynghori arnynt yn ddiweddarach yn yr haf.’

Mae ehangu defnydd taenellwyr mewn tai amlfeddianniaeth a ddefnyddir fel cartrefi gofal neu sy’n gartref i fwy na 10 o bobl yn un o’r argymhellion yr ymgynghorir yn ei gylch yn fuan.

GOGLEDD IWERDDON

Adroddiad yn pwysleisio posibiliadau deiladaeth gymysg

Gall datblygu tai deiliadaeth-gymysg gynnig buddiannau cymdeithasol mawr i Ogledd Iwerddon, yn ôl adroddiad newydd a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng yr Adran Cymunedau a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon.

Bwriad Mainstreaming Mixed Tenure Development in Northern Ireland – the way forward for developing homes?yw ysgogi trafodaeth a llywio’r ddadl ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â’r tai.

Meddai prif weithredydd NIFHA, Ben Collins: ‘Yr hyn a ddengys yr adroddiad yw y gall datblygu tai deiliadaeth-gymysg gynnig manteision cymdeithasol ehangach, yn cynnwys mynd i’r afael ag anfantais a gwahaniad. Er nad yw’n ateb i bob problem gymdeithasol, ac er na cheir canlyniadau positif heb fentrau polisi eraill i gyflenwi hyn, serch hynny mae’n sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiant.’

Mae’r adroddiad ar gael yn www.nifha. org/wp-content/uploads/MTR-FINAL- Hi-Res-single-page-070618.pdf

Llywodraeth Cymru

Grŵp gorchwyl a gorffen newydd

Cyhoeddwyd grŵp newydd gan Llywodraeth Cymru a fydd yn mynd i’r afael â digartrefedd ieuenctid a goruchwylio’r fenter Tai Cyntaf arloesol.

Cadeirydd y grŵp fydd y gweinidog tai ac adfywio, Rebecca Evans, ac mae’n cynnwys y dirprwy gyfarwyddwr tai, y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio, cyfarwyddwr iechyd meddwl a llywodraethiant y GIG, a dirprwy gyfarwyddwr y gefnogaeth i ddysgwyr gan Lywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, yr heddlu, Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl, Diweddu Digartrefedd Ieuenctid Cymru, Cysgwyr Allan Cymru, Rhwydwaith Tai yn Gyntaf, y Rhwydwaith Darparwyr Cefnogol, academyddion, gweithiwr ieuenctid (enwebir trwy’r Grŵp Cyfeirio Gweithwyr Ieuenctid) a gweithiwr allgymorth (enwebir trwy Cysgwyr Allan Cymru).

Dywedodd Rebecca Evans: ‘Trwy’r grŵp hwn, byddwn yn sicrhau bod gennym, ar draws y llywodraeth a thu hwnt, ffordd unedig o fynd ati, mewn meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, addysg, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a chyfiawnder ieuenctid, i atal digartrefedd ac i gefnogi pobl ifanc ddigartref i sicrhau rhywle diogel i fyw. Bydd y grŵp hefyd yn cynghori ar weithredu’r dull Tai yn Gyntaf ledled Cymru, gan gynnwys gwerthuso.’

Mesur i wahardd codi ffi asiant gosod ar denantiaid

Bydd Mesur newydd Llywodraeth Cymru i wahardd codi ffïoedd yn y sector rhentu preifat yn gwneud pethau’n symlach a thecach i denantiaid, addawodd y gweinidog tai, Rebecca Evans.

Bydd Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yn sicrhau na chodir ar denantiaid bellach am gael eu hebrwng i weld eiddo, derbyn rhestr eiddo, arwyddo cytundeb, neu adnewyddu tenantiaeth. Dim ond mewn achosion yn ymwneud â rhent, adneuon diogelwch, adneuon cadw, neu dor-cytundeb gan denant y caniateir i asiantiaid gosod neu landlordiaid godi tâl.

O dan y drefn orfodi, bydd hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu cyhoeddi yn erbyn unrhyw un sy’n mynnu taliad gwaharddedig; os na thelir y gosb, gall awdurdod lleol erlyn trosedd drwy’r Llys Ynadon. Gallai euogfarn am drosedd arwain at ddirwy anghyfyngedig, a byddai hynny’n cael ei gymryd i ystyriaeth gan Rhentu Doeth Cymru wrth ystyried a ddylid rhoi neu adnewyddu trwydded.

Canfu’r ymgynghoriad y codwyd tâl ar 91 y cant o denantiaid i rentu eiddo. Lle codwyd tâl, roedd yn £249 ar gyfartaledd i ddechrau tenantiaeth, £108 i’w hadnewyddu, a £142 ar ddiwedd tenantiaeth.

Hwb o £75m i’r gronfa Gofal Integredig

Bydd cronfa o £10 miliwn y flwyddyn yn cynyddu i £105 miliwn dros dair blynedd er mwyn darparu mwy o ofal cydgysylltiedig yn nes adref a helpu i adeiladu cartrefi lle gall pobl fyw’n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain. Cyhoeddwyd hyn gan y gweinidog tai ac adfywio, Rebecca Evans, a’r  gweinidog dros blant, pobl hŷn a gofal cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, yn ystod ymweliad â chynllun tai Gofal Ychwanegol sy’n cael ei adeiladu ym Maesteg.

Bydd y Gronfa Gofal Integredig, a sefydlwyd i gefnogi integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai, yn derbyn hwb o £75 miliwn dros dair blynedd, mewn ymgais i greu mwy o dai ar raddfa fawr sy’n cynnwys gofal cymdeithasol yn ogystal â ffyrdd arloesol eraill o gyfuno iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cyllid cyfalaf hwn yn ychwanegol at elfen refeniw £50 miliwn y gronfa a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.

Meddai Huw Irranca-Davies: ‘Bydd y cynnydd sylweddol hwn yn helpu i gwblhau mwy o brojectau sy’n helpu pobl i fyw’r bywydau a fynnant, tra’n ateb eu gofynion gofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Yn hollbwysig, bydd hefyd yn helpu i sicrhau y gall pobl fynd adref a derbyn y gefnogaeth briodol pan nad oes arnynt angen gwely ysbyty bellach, gan ryddhau adnoddau’r GIG.’

Melin yn ennill y wobr QED gyntaf

Tai Pawb Conference 2018

Cartrefi Melin yw’r gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i ennill gwobr yn cydnabod ei heffaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae’r Wobr QED benodol i Gymru gan Tai Pawb yn achrediad a fframwaith cynhwysfawr a roddir am adolygu a gwella effaith sefydliad ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei llywodraethiant, ei gwasanaethau, ei hygyrchedd, ei chyfranogiad a’i diwylliant.

Cartrefi Melin oedd y sefydliad cyntaf i gofrestru pan lansiodd Tai Pawb QED yn 2017. Bu’r ddau sefydliad wrthi’n gweithio ar y cyd i ddatblygu’r wobr trwy ddefnyddio gwybodaeth Tai Pawb am gydraddoldeb ac amrywiaeth a phrofiad ymarferol Melin o sut y gellid sicrhau hyn ar gyfer cymdeithasau tai.

Roedd y broses QED yn cynnwys arolwg staff, adolygiadau desg ac amrywiaeth o gyfweliadau gyda’r staff, y bwrdd a thrigolion, gydag argymhellion i ddilyn a chyfnod i weithredu cynllun gweithredu. Dilynwyd hyn gan ymweliad arolygu cynnydd ac adroddiad terfynol.

Derbyniodd Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Melin, Paula Kennedy (llun) y wobr gan Peter Tatchell yng nghynhadledd flynyddol Tai Pawb, ‘Aelwyd i Bawb’.

Dywedodd: ‘Yn Melin, gwelsom fod angen fframwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yng Nghymru, a fyddai’n gwasanaethu sefydliadau a’r bobl sy’n elwa ar y polisïau hyn yn llawer gwell. Gwobr QED yw canlyniad y weledigaeth hon ac rydym wrth ein bodd mai ni yw’r sefydliad cyntaf i’w derbyn.’

Mae Ceri Meloy, pennaeth busnes Tai Pawb, wedi bod yn cydweithio’n agos â Melin dros y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd: ‘Hoffwn longyfarch Cartrefi Melin ar ennill Gwobr QED. Ni fyddai hyn yn bosibl heb eu natur agored, ymrwymiad i gydraddoldeb, a’u hymdrech i fyfyrio’n barhaus a gwella’r hyn maen nhw’n ei wneud er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Parc busnes gwahanol

Mae Cartrefi Conwy wedi adeiladu parc busnes newydd i greu hyb adeiladu £30 miliwn y flwyddyn.

Bydd datblygiad Mochdre yn ysgogi cynlluniau ar gyfer projectau adfywio ledled gogledd Cymru ac ar gyfer adeiladu hyd at 300 o gartrefi newydd.

Dywed y gymdeithas mai dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd hefyd yn cynnig swyddi a hyfforddiant i denantiaid di-waith fel y gallant ddychwelyd i fyd gwaith.

Rhentir dwy o’r chwe uned yn y parc busnes gwerth £1.7 miliwn gan is-gwmni Cartrefi Conwy, Creating Enterprise, menter gymdeithasol sydd ar ei ffordd at drosiant o £9 miliwn eleni.

Mae eraill sy’n symud i’r parc busnes newydd yn cynnwys y cwmni lleol, Brenig Construction a’r masnachwyr adeiladwyr, Travis Perkins.

Meddai Adrian Johnson, rheolwr-gyfarwyddwr gwasanaethau masnachol grŵp Cartrefi Conwy: ‘Rydym yn amrwio ein busnes, gan greu ffrydiau incwm newydd trwy weithgareddau’n ymwneud ag adeiladu, ond gan sicrhau bod tenantiaid yn cael cymaint o gyfleoedd gwaith â phosib.’

Gwobrau Tai Cymru 2018 ar agor nawr

Mae Gwobrau Tai Cymru 2018, sy’n cydnabod ac yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ledled y sector yng Nghymru, bellach ar agor i ymgeiswyr.

Mae’r gwobrau, a drefnir gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn agored i sefydliadau tai ledled Cymru a bydd gan ddigwyddiad eleni dri chategori newydd sbon, yn cynnwys gwobrau i’r sector rhentu preifat, gwobr am gefnogi cenedlaethau’r dyfodol, a’r wobr arloesi mewn cyfathrebu, ynghyd â dychweliad rhai o’n categorïau digwyddiadau mwy poblogaidd.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw dydd Gwener 14 Medi a chyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni arbennig ddydd Gwener 23 Tachwedd yng Ngwesty’r Fro.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.cih.org/cymru/welshhousingwards

CYHOEDDIADAU: 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

  1. Everybody In: How to End Homelessness in Great Britain
    Crisis, Mehefin 2018
    www.crisis.org.uk/ending-homelessness/the-plan-to-end-homelessness-full-version/executive-summary/
  2. Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru
    Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Y Cynulliad Cenedlaethol, Mai 2018
    www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11557/cr-ld11557-w.pdf
  3. Rethinking Social Housing
    Y Sefydliad Tai Siartredig, Mehefin 2018
    www.cih.org/rethinkingsocialhousingfinalreport
  4. Weighing the options
    Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Mehefin 2018
    www.cih.org/resources/PDF/Wales%20Policy/Weighing%20the%20options%20report%20-%20Tyfu%20Tai%20Cymru.pdf
  5. Effective Housing for People on Low Incomes in the Valleys
    Sefydliad Joseph Rowntree/Sefydliad Bevan, Mehefin 2018
    www.jrf.org.uk/report/effective-housing-people-low-incomes-welsh-valleys
  6. Yr Hyn sy’n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig: Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau Economaidd
    Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Mehefin 2018
    www.wcpp.org.uk/cy/cyhoeddi/yr-hyn-syn-gweithio-wrth-drechu-tlodi-gwledig-adolygiad-o-dystiolaeth-o-ymyriadau-economaidd/
  7. Closing the Gap: gender pay gap in housing associations in Wales
    Tai Pawb, Mehefin 2018
    www.taipawb.org/policy-influencing/gender-pay-gap/
  8. Living Standards, Poverty and Inequality in the UK: 2018
    Y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, Mehefin 2018
    www.ifs.org.uk/uploads/R145%20for%20web.pdf
  9. The Peabody Index: tracking the financial experiences of London’s social housing tenants
    Sefydliad y Farchnad Gymdeithasol, Mehefin 2018
    www.smf.co.uk/wp-content/uploads/2018/06/The-Peabody-Index.pdf
  10. 10 Social Housing (fixed-term tenancies): final findings
    Welfare Conditionality, Mai 2018
    www.welfareconditionality.ac.uk/wp-content/uploads/2018/05/39273-Social-housing-web.pdf

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »