English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Ydyn ni’n gwrando?

Mae pawb yn cytuno y dylai tenantiaid fod wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud gyda thai – ond beth mae hynny’n ei olygu go iawn?

Mae’r rhifyn Hydref hwn o WHQ yn mynd ati i ateb y cwestiwn hwnnw gyda chyfres o erthyglau gan denantiaid eu hunain, gan ymgyrchwyr, a chan bobl sy’n gweithio i gynyddu cyfranogiad a chydgysylltiad tenantiaid i’r eithaf.

Tenantiaid wrth galon pethau yw ffocws yr arolwg strategol o gyfranogiad tenantiaid gan Fwrdd Rheoleiddio Cymru. Mae Bob Smith yn amlinellu’r cefndir i’r arolwg, gan ddadlau ei fod yn gyfle i archwilio ffyrdd gwahanol o wneud pethau, tra bod gan Keith Edwards syniadau am ffyrdd newydd y gallai landlordiaid a thenantiaid gydweithio.

Mae pethau’n newid yn Lloegr hefyd. Mae llywodraeth San Steffan, a arferai fychanu tai cymdeithasol a gorfodi polisïau fel y dreth stafell wely arnynt, wedi newid cywair mewn papur gwyrdd. Mae Rob Gershon yn cynnig safbwynt tenant ar y sefyllfa gyfredol.

Yn nes adref, mae Fran Bevan yn myfyrio ar ei thaith o denant cyngor, i drosglwyddiad stoc, i fenter gyd-fuddiannol ym Merthyr. Mae Sam Shaw yn dadlau bod mawr angen newid y sylw negyddol mae’r cyfryngau’n ei roi i denantiaid, a Steve Clarke yn dadlau ei bod hi’n bryd sefydlu Comisiynydd ar gyfer Rhentwyr i sicrhau y gweithredir ar eu barn.

Mae rhentwyr preifat yn galw am newid hefyd. Eglura Liz Silversmith pam maen nhw wedi syrffedu a pham y dylai deddfwriaeth yng Nghymru fynd ymhellach ar bynciau ffïoedd tenantiaid a sicrwydd deiliadaeth. Mae problemau mawr yn wynebu tenantiaid yn y ddau sector. Mae Jennie Bibbings yn datgelu rhai allweddol a godir gan denantiaid sy’n dod at Shelter Cymru am gyngor.

Rhydd hyn oll fwy o bwysau nag erioed ar landlordiaid i sicrhau eu bod yn gwrando ar lais y tenant ac yn hybu’r cyfranogiad ehangaf posib gan denantiaid. Dadl David Wilton yw y bydd y chwyldro digidol yn newid sut mae tenantiaid, landlordiaid a chymunedau yn ymwneud â’i gilydd yn sylfaenol, tra dywed Thomas Lambourne y gall dulliau newydd gyrraedd grwpiau o bobl a adawyd allan gan gyfranogiad tenantiaid.

Mae erthyglau eraill yn y rhifyn hwn yn edrych ar nifer o syniadau newydd a allai effeithio’n fawr ar dai, tenantiaid a landlordiaid yng Nghymru. Mae Simon Hoffman yn egluro beth a olygai gwneud hawl y CU i dai addas yn rhan o gyfraith Cymru, ac mae Alicja Zalesinska yn edrych ar y gwahaniaethau ymarferol a fyddai’n deillio o hynny.

Ymwelodd Sam Tsemberis, pensaer Housing First, â Chymru ym mis Medi, â’i neges obeithiol yw y gallai’r dull hwn o fynd ati weithio yng Nghymru. Mae Alex Osmond yn ystyried yr hyn a glywodd.

Gyda mwy am yr hyn y gall y maes tai ei ddysgu gan sectorau eraill, yr hyn y mae’r Alban yn ei wneud ynglŷn â chysgu allan, ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd, gobeithio y bydd rhywbeth at ddant pawb yn y rhifyn hwn o WHQ.

Jules Birch, Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »