English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU Y DU

Marwolaethau pobl ddigartref yn cynyddu o chwarter mewn pum mlynedd

Bu farw bron 600 o bobl ddigartref ar y strydoedd neu mewn hosteli yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2017 yn ôl ffigyrau’r SwyddfaYstadegau Gwladol (ONS). Mae’r 597 o farwolaethau mewn 12 mis yn gynnydd o 24 y cant dros y pum mlynedd ddiwethaf. Casglodd yr ONS y wybodaeth am bwy oedd yn ddigartref o gofnodion cofrestru marwolaeth lle roedd y man preswylio a nodwyd yn cynnwys termau fel dim llety sefydlog, hostel neu loches nos neu gyfeiriad hostel neu broject digartrefedd hysbys.

Dynion oedd 84 y cant o’r rhai a fu farw yn 2017, ag oed marwolaeth o 44 ar gyfartaledd, o’i gymharu â 42 oed i fenywod. Llundain a Gogledd Orllewin Lloegr oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau ymhlith pobl ddigartref; roedd gan Gymru lai o farwolaethau nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr. Priodolwyd mwy na hanner y marwolaethau i wenwyno gan gyffuriau, afiechyd yr afu neu hunanladdiad. Fodd bynnag, ni chanfu ONS nemor ddim tystiolaeth o batrwm tymhorol.

Meddai Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredydd Y Wallich: ‘Dengys hyn fod y broblem yn mynd y tu hwnt i roi blancedi a phâr o sanau i bobl. Nid problem Nadolig neu aeaf mo digartrefedd, ac nid am ei bod hi’n oer yn unig mae pobl yn marw. Maent yn marw ar hyd y flwyddyn am amrywiaeth o resymau ataliadwy.

‘Mae achosion y marwolaethau trasig hyn yn pwysleisio’n gryf bod angen dull seicolegol, sy’n deall trawma, o fynd ati gefnogi pobl ddiymgeledd â phwyslais ar leihau niwed, nid troseddoli. Mae’n bryd bod yn garedig a thosturiol wrth bobl, nid eu barnu. ‘

Amber Rudd yn oedi’r bleidlais ar Gredyd Cynhwysol

Ataliodd yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau, Amber Rudd, bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar symud tair miliwn o hawlwyr budd-daliadau presennol i Gredyd Cynhwysol, er nad oedd y trosglwyddiad i fod i gychwyn tan 2020. Yn hytrach, gofynnodd y gweinidog i ASau gymeradwyo project peilot ar gyfer 10,000 o hawlwyr er mwyn gweld sut mae’r system newydd yn gweithio.

Gwadodd ei swyddogion y cawsai hyn ei orfodi arni oherwydd ofn y câi ei threchu yn y bleidlais, gan fynnu ei bod wedi dewis ‘cymryd perchnogaeth’ o’r project dadleuol. Mae’r cam yn dilyn beirniadaeth gan bwyllgorau hollbleidiol Tŷ’r Cyffredin, y Swyddfa Archwilio Wladol a Cheidwadwyr ar y meinciau cefn. Fodd bynnag, mynnodd y prif weinidog Theresa May y bydd y system newydd yn gweithredu’n llawn erbyn 2023 yn ôl y bwriad gwreiddiol.

LLOEGR

Galw am filiynau o gartrefi cymdeithasol newydd

Galwodd Comisiwn Tai Cymdeithasol annibynnol a gynulliwyd gan Shelter am 3.1 miliwn o dai cymdeithasol newydd dros yr 20 mlynedd nesaf ac am ddiwygio hawliau tenantiaid yn sylfaenol.

Roedd yr 16 comisiynydd annibynnol, o bob rhan o gymdeithas a’r sbectrwm gwleidyddol, yn galw am gynnig tai cymdeithasol i lawer mwy o bobl â rhaglen yn cynnwys 1.27 miliwn o gartrefi ar gyfer y rhai â’r angen mwyaf am dai, 1.17 miliwn ar gyfer rhentwyr preifat na allai fforddio prynu, a 790,000 ar gyfer rhentwyr preifat hŷn sy’n wynebu costau tai uchel ac ansicrwydd ar ôl ymddeol.

Roedd dadansoddiad Capital Economics yn awgrymu mai cost y rhaglen fyddai £10.7 biliwn y flwyddyn yn y cyfnod adeiladu, ond y câi dau-draean o hynny ei adennill mewn arbedion ar fudd-dâl tai a a chynnydd mewn derbyniadau treth. Byddai’r buddsoddiad wedi talu’n llawn amdano’i hun ymhen 39 mlynedd.

Galwai’r comisiwn hefyd am reoleiddiwr tai newydd â phwerau ychwanegol, am ymchwilio’n gyflymach i gwynion, ac am sefydliad tenantiaid cenedlaethol newydd.

YR ALBAN

Cynllun gweithredu ar ddigartrefedd

Dywedodd llywodraeth yr Alban y bydd symud tuag at ailgartrefu cyflymach yn golygu cartrefu pobl ddigartref mewn llety tymor-hir, sefydlog sy’n ateb eu hanghenion cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae’r Cynllun Gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cyflwyno mesurau ar gyfer llywodraeth genedlaethol a lleol a’r trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau rheng-flaen.

Mae pobl sy’n byw mewn llety dros-dro neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd eisoes yn cael eu cefnogi ar fyrder i symud i mewn i gartrefi parhaol trwy fuddsoddiad o £23.5 miliwn, sy’n rhan o’r Gronfa £50 miliwn i Ddiweddu Digartrefedd.

Dywedodd yr ysgrifennydd cymunedau, Aileen Campbell: ‘Mae ar bawb angen lle diogel, cynnes i’w alw’n gartref. Mae’n fwy na lle i fyw ynddo – dyma’r lle y gallwn deimlo’n ddiogel, bwrw gwreiddiau, a theimlo ein bod yn perthyn.’

‘Gall achosion digartrefedd fod yn gymhleth, a dyna pam mae’n rhaid cydgysylltu’r holl wasanaethau. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn roi terfyn ar ddigartrefedd am byth.’

GOGLEDD IWERDDON

Y STS yn galw am ddatblygiadau deiliadaeth-gymysg

Dylai pob cynllun tai newydd yng Ngogledd Iwerddon fod yn gymysgedd o dai preifat a chymdeithasol yn ôl adroddiad gan y Sefydliad Tai Siartredig. Dywed Rethinking social housing Northern Ireland fod pobl yn gweld gwerth tai cymdeithasol a’r hyn y mae’n ei gynnig, ond nad ydynt am weld stadau tai cymdeithasol un-ddeiliadaeth mawr yn cael eu hadeiladu.

Mae’r adroddiad yn argymell hefyd y dylid:

  • Datblygu dewisiadau tai newydd fforddiadwy ar gyfer pobl ar incwm is sy’n talu rhenti marchnad uchel
  • Dod â’r cynllun gwerthu tai – sy’n galluogi tenantiaid i brynu eu cartref cymdeithasol – i ben er mwyn diogelu’r cyflenwad tai.

LLYWODRAETH CYMRU

Drakeford yn ad-drefnu ei dîm

Cafodd tai statws cabinet a gweinidogion newydd ar ôl ad-drefniant gan y prif weinidog newydd, Mark Drakeford.

Aeth Julie James yn weinidog tai a llywodraeth leol ac yn aelod o’r cabinet, gyda Hannah Blythyn yn ddirprwy weinidog tai a llywodraeth leol

Cafodd y cyn-weinidog tai ac adfywio Rebecca Evans ddyrchafiad mawr, gan gymryd lle Mark Drakeford fel ysgrifennydd cyllid, a hi hefyd yw trefnydd y Senedd.

Julie James yw AC Gorllewin Abertawe, a hi oedd cyn-Arweinydd y Tŷa’r prif chwip. Cyn ei hethol yn 2011, roedd yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol flaenllaw, a bu’n gweithio mewn llywoderaeth leol yng Nghymru a Lloegr. Dywed ei bywgraffiad Llywodraeth Cymru ei bod yn hollol ymrwymedig i faterion gwyrdd ac amgylcheddol.

Etholwyd Hannah Blythyn yn AC Delyn yn 2016, i olynu Sandy Mewies, a bu’n weinidog yr amgylchedd yn flaenorol. Mae’r rhestru tai fel yn un o’i diddordebau polisi neilltuol ar ei bywgraffiad Cynulliad.

Roedd cynrychiolaeth uniongyrchol i dai wrth fwrdd y Cabinet yn un o ddeg o addewidion ar dai ym maniffesto arweinyddiaeth Mark Drakeford. Addewid llygad-dynnol arall oedd deddfu i ddarparu mwy o sicrwydd i rentwyr preifat. Ei addewidion eraill oedd:

  • Annog datblygiad tai modiwlaidd, gan adeiladu ein gallu i gynhyrchu’r rhain yma yng Nghymru a dileu cyfyngiadau ar adeiladu tai cyngor lleol.
  • Bwrw ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer treth ar dir gwag, i fynd i’r afael â bancio tir a rhyddhau tir ar gyfer tai ac adfywio. Defnyddio cyfalaf trafodion ariannol i sicrhau cyflenwadau o dir yn y mannau iawn ar gyfer tai.
  • Cyflwyno deddfwriaeth i wahardd ffioedd tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
  • Cyfunioni cyfrifoldebau tai a chynllunio, gan ganiatáu i gynghorau gydweithio’n fwy hyblyg ar draws ffiniau i ddarparu tai ar gyfer poblogaethau lleol.
  • Gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol er mwyn defnyddio tir yn eu meddiant ar gyfer gofal cymdeithasol a thai.
  • Rhoi lle i gymdeithasau tai ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, i godi proffil tai mewn iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau’r buddsoddiadau angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.
  • Cryfhau pwerau Pwrcasu Gorfodol i alluogi caffael tir ac adeiladau segur.
  • Archwilio’r achos o blaid ‘asiantaeth tir newydd’ i ymgymryd â chrynhoi tir at ddibenion cyhoeddus yng Nghymru.

Fel rhan o’i ‘sosialaeth yr 21ain ganrif’, addawodd y Prif Weinidog newydd gefnogaeth hefyd i’r economi sail yng Nghymru, a mesurau caffael i hybu gallu. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu i ymbweru adeiladwyr tai bychain ‘i fentro i’r farchnad, a lle bo angen, darparu cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol’ a rhaglen o ddiweddaru cartrefi trwy law busnesau bychain a chanolig a fyddai’n ‘datblygu sgiliau lleol, a’n gwneud yn gynhesach, yn iachach ac yn gyfoethocach’.

Addawodd weithredu ar ofal cymdeithasol, yn cynnwys pwerau trethu newydd posibl a archwiliwyd gan gynigion adroddiad Holtham o blaid cronfa yswiriant gofal cymdeithasol newydd ar gyfer Cymru.

Dywedodd y byddai’n cadw’r 22 awdurdod lleol cyfredol, ond yn gweithredu i gefnogi unrhyw gynnig o blaid cyfuno’n wirfoddol, ac yn cyflymu cydweithio rhanbarthol rhwng awdurdodau.

Addawodd bennu targedau newydd ymrwymol argyfer awdurdodau lleol parthed plant mewn gofal.

Y Cabinet newydd yn llawn

  • Prif Weinidog Cymru – Mark Drakeford
    Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Vaughan Gething
    Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Eluned Morgan
    Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Ken Skates
    Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Julie James
  • Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Rebecca Evans
    Y Gweinidog Addysg – Kirsty Williams
    Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Lesley Griffiths
    Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Jeremy Miles

Dirprwy weinidogion

  • Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip – Jane Hutt
    Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Julie Morgan
    Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – Dafydd Elis-Thomas
  • Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Lee Waters
    Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol – Hannah Blythyn

Rhenti i gynyddu yn unol â’r gyfradd chwyddiant

Cyfyngir y cynnydd mewn rhenti cyngor a chymdeithasau tai i’r gyfradd chwyddiant ar gyfer 2019/20, meddai Llywodraeth Cymru wrth landlordiaid mewn llythyr yn mis Rhagfyr.

Mae’r penderfyniad yn cyfyngu unrhyw godiad mewn rhenti y flwyddyn nesaf i’r cynnydd o 2.4 y cant yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) ym mis Medi 2018 ar ôl sawl blwyddyn o gyfyngu codiadau i MPD plws 1.5 y cant.

Fe’i gwneir yn glir mai dim ond landlordiaid y mae eu rhenti wythnosol ar gyfartaledd yn is na’u band rhenti targed fydd â’r hawl i ychwanegu £2 yr wythnos at y cynnydd – dim ond o 2.4 cant y gall landlordiaid â rhenti o fewn eu band rhenti targed neu’n uwch na hynny gynyddu rhenti tenantiaid.

Penderfyniad ar gyfer 2019/20 yn unig yw hwn. Bydd codiadau rhent wedi hynny yn dibynnu ar ganlyniad Arolwg Cyflenwad Tai Fforddiadwy y gofynnwyd iddo roi sicrwydd i landlordiaid cymdeithasol a chydbwyso’r angen am barhau i ddatblygu a fforddiadwyedd. Disgwylir yr arolwg yn Ebrill 2019.

Dywed Lynn Pamment, cadeirydd yr arolwg, yn y rhifyn hwn o WHQ (gwel. tud. 9): ‘Mae yna amrywiaeth barn eang parthed sut beth y gallai neu y dylai polisi rhent diwygiedig fod. Ond yr hyn sy’n amlwg yw bod cefnogaeth i bolisi rhent ymhlith tenantiaid, ac i fforddiadwyedd gael ei adlewyrchu yn y polisi. Bydd sicrwydd tymor-hwy yn y polisi rhent yn caniatáu mwy o sicrwydd i gymdeithasau ac awdurdodau lleol wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.’

Mae landlordiaid yn dadlau bod eu gallu i ddarparu cartrefi newydd yn dibynnu ar gynyddu rhenti. Mynegasant eu siom gyda’r cynnydd MDP-yn-unig eleni, gan rybuddio ynghylch toriadau mewn gwasanaethau a safonau. Fodd bynnag, roedd anesmwythyd eang ynghylch y cynnydd o 4.5 y cant a wynebwyd gan denantiaid yn Ebrill 2018, a phroblemau fforddiadwyedd ehangach.

Projectau newydd i atal digartrefedd ymhlith yr ifanc

Cyn sefyll i lawr fel Prif Weinidog, esboniodd Carwyn Jones sut y caiff £10 miliwn o gyllid ei ddefnyddio i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiweddu digartrefedd ymhlith ieuenctid erbyn 2027.

Mae’r cyllid a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cynnwys:

  • £3.7 miliwn ar gyfer y Grant Cymorth Ieuenctid i atgyfnerthu gwasanaethau atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc a mynd i’r afael â’r achosion gwraidd
  • £4.8 miliwn ar gyfer Cronfa Arloesi i ddatblygu dulliau newydd o helpu pobl ifanc gyda thai, a allai gynnwys cymorth i rai sy’n gadael gofal
  • £250,000 ar gyfer rhaglenni cyfathrebu ac ymgysylltu wedi’u targedu, i gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a defnydd o’r gwasanaethau sydd ar gael
  • £250,000 ar gyfer gwaith cynnal tenantiaethau gyda Shelter Cymru a’i linell gymorth bresennol, i sicrhau bod pobl ifanc yn ei chael hi’n haws manteisio ar wybodaeth, cyngor a chymorth i’w helpu i gynnal tenantiaethau
  • £1 miliwn i ddyblu Cronfa Dydd Gŵyl Dewi sydd eisoes yn darparu cymorth ariannol ymarferol i rai sy’n gadael gofal wrth iddynt symud tuag at fod yn oedolion annibynnol.

Cartrefi Cymru yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon

Datgelwyd cynnydd sylweddol o ran effeithlonrwydd ynni a pherfformiad amgylcheddol tai Cymru yn Arolwg Amodau Tai Cymru 2017/18.

Dangosodd canlyniadau a ryddhawyd ym mis Rhagfyr fod y gyfradd Gweithdrefn Asesu Safonol (SAP) ar gyfartaledd ar gyfer pob deiliadaeth wedi cynyddu o 11 pwynt SAP, o 50 yn 2008 i 61 yn 2017/18 – sy’n gyfwerth â Thystysgrif Perfformiad Ynni Band D.

Cafwyd y gwelliant mwyaf yn y sector rhentu preifat, gyda chynnydd o 13 pwynt SAP.

Cyllid i fynd i’r afael â chysgu allan

Cyhoeddodd y gweinidog tai a llywodraeth leol £1.3 miliwn o gyllid i fynd i’r afael â chysgu allan yng Nghymru y gaeaf yma, yn union cyn y Nadolig.

Mae’r pecyn yn cynnwys £25,000 ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru i helpu â phwysau’r gaeaf, a chyllid penodol ar gyfer Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe, y pedair ardal â’r problemau cysgu allan mwyaf cymhleth.

Papurau ymgynghori

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

CYMRU

Angen dyblu nifer y tai a godir, medd y Ceidwadwyr

Mae strategaeth dai newydd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am raglen i adeiladu 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn yn ystod tymor nesaf y Cynulliad nesaf, a 100,000 dros y deng mlynedd nesaf.

Mae Cartrefu Cenedl hefyd yn galw am ddarparu 20 y cant o’r cartrefi trwy waith adeiladu oddi ar y safle, dileu’r Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo gwerth hyd at £250,000, ac ailgyflwyno ‘hawl i brynu’ diwygiedig, gyda 100 y cant o’r derbyniadau’n cael eu hailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol.

Dengys ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru y cychwynwyd ar 5,922 o dai, ac y cwblhawyd 6,043 yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi, gostyngiad o15 y cant ar y flwyddyn flaenorol yn y ddau achos.

Dywedodd ysgrifennydd tai yr wrthblaid, David Melding: ‘Mae hon yn weledigaeth bell-gyrhaeddol ei huchelgais, un sy’n argymell set o syniadau cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r argyfwng tai

‘Arferid ystyried tai yn un o feysydd pwysicaf polisi cyhoeddus, â’r un pwyslais a blaenoriaeth â gofal iechyd. Bydd y papur hwn yn adfer y pwysigrwydd hwnnw fel y gallwn adeiladu ein ffordd allan o’r argyfwng hwn unwaith ac am byth. ‘

Cymdeithasau’n cydweithredu i gefnogi Bargen Twf y Gogledd

Ffurfiodd grwp o chwe chymdeithas tai leol gyd-fenter i brysuro’r broses o ddatblygu cartrefi newydd fforddiadwy i gefnogi darparu Bargen Twf y Gogledd.

Ymrwymiad gan ranbarth gogledd Cymru i weithio ar y cyd i hwyluso a chyflymu twf economaidd yw’r Fargen Twf. Bwriad y fargen yw defnyddio cyllid gan y llywodraeth i sianelu gwerth bron £700m o arian cyhoeddus a phreifat i mewn i gyfres o brojectau â’r nod o hybu economi’r Gogledd a chreu miloedd o swyddi.

Mae prif weithredwyr y chwe chymdeithas tai sy’n gweithredu ledled gogledd Cymru, yn cynnwys Grŵp Cynefin, Pennaf, Cartrefi Conwy, Cartrefi Cymuneddol Gwynedd, Wales and West, a Tai Gogledd Cymru yn cydweithredu’n wirfoddol â chydweithwyr o’r chwe awdurdod lleol. Mae’r grŵp yn ystyried sut i weithio’n rhagweithiol i ddatblygu mwy o gartrefi drwy ddatgloi safleoedd strategol ledled gogledd Cymru sy’n dal heb eu datblygu, rhai a glustnodwyd yn flaenorol mewn cynllun datblygu neu sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio eisoes.

Meddai Helena Kirk, prif weithredydd Tai Gogledd Cymru: ‘Ni chafodd y lefel yma o gydweithio arloesol rhwng y cymdeithasau rhanbarthol ei ddatblygu na’i sicrhau yng Nghymru cyn hyn.

Dywedodd Rebecca Evans, y cyn-weinidog tai ac adfywio: Mae hwn yn gyfle cyffrous i greu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru. Trwy gydweithio, mae’r potensial gan y fenter hon i fod yn llawer mwy na chyfanswm ei gydrannau, a byddwn yn cynnig cynorthwyo â’i datblygiad.”

Mae cynlluniau’r grŵp yn cael eu datblygu i gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol.

Tair cymdeithas tai â phrif weithredydd newydd

Bu hwn yn chwarter arall o newid ar frig cymdeithasau tai Cymru gyda phenodi tri phrif weithredydd newydd.

Ymddeolodd Chris O’Meara fel prif weithredydd Cadwyn adeg y Nadolig (mae hi’n ystyried ei gyrfa faith gyda thai ar dud. 8), gyda Kath Palmer, Cyfarwyddydd Gweithredol Lle, Polisi ac Ymgysylltu â Rhyngddeiliaid Hafod,  yn cymryd ei lle. Bydd yn ymuno ym mis Mawrth, gyda’r cyfarwyddydd cyllid Sam Daniels yn brif weithredydd dros-dro yn y cyfamser.

Bydd Michelle Reid yn symud o Gynon Taf i fynd yn brif weithredydd Cartrefi Cymoedd Merthyr pan fydd Mike Owen yn ymddeol ym mis Ebrill. Bydd bwrdd Cynon Taf yn trafod ei gynlluniau yn ogystal â recriwtio prif weithredydd newydd. Bydd Hayley Selway yn mynd yn brif weithredydd Tai Cymuned Caerdydd yn y misoedd nesaf, gan olynu’r prif weithredydd dros-dro, Stephen Cook. Ar hyn o bryd, mae’n gyfarwyddydd gweithredol pobl a llefydd Tai Taf.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »