English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Y DU

 ASau’n condemnio’r cyfyngiad ‘creulon’ ar fudd-daliadau

Mae’r cyfyngiad cyffredinol ar fudd-daliadau wedi methu cyflawni’r amcanion yr honnai’r llywodraeth y byddai’n ei wneud, yn ôl adroddiad deifiol gan grŵp traws-bleidiol o ASau.

Dywedodd y llywodraeth bod a wnelo’r polisi â thegwch i deuluoedd gweithiol, gwella cymhelliant i hawlwyr budd-daliadau i weithio. ac arbed arian o’r gyllideb les, ond prin oedd amynedd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau gyda’r tri honiad.

Cafodd y pwyllgor mai dim ond 18 y cant o’r rheini sy’n dod o dan y cyfyngiad sy’n derbyn budd-dâl lle mynnir eu bod ymdrechu i chwilio am waith, ac nad oes disgwyl i’r 82 y cant arall weithio am eu bod yn rhy sâl neu â phlentyn ifanc.

Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi ‘gor-frolio’ buddiannau cyflogaeth yn deillio o’r cyfyngiad ‘dro ar ôl tro’ a hawlio nad yw arbedion o £190 miliwn y flwyddyn yn cynnwysarian a wariwyd ar daliadau tai disgresiynol neu gostau uwch awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r cyfyngiad ar fudd-dâl o £20,000 y flwyddyn (£23,000 yn  Llundain) eisoes yn achosi caledi mawr, a rhybuddia’r ASau mai gwaethygu a wna pethau o dan gredyd cynhwysol.

‘Mae’n anodd meddwl am dorriad creulonach’, meddai cadeirydd y pwyllgor Frank Field.  ‘Mae budd-daliadau’n cael eu torri â’r nod o orfodi pobl i mewn i waith, ond does dim disgwyl i bedwar o bob pump sy’n dioddef y toriadau hyn fod yn gweithio.’

YR ALBAN

 £70m miliwn ychwanegol ar gyfer cartrefi

Cynyddodd Llywodraeth yr Alban ei gwario ar dai fforddiadwy wrth fwrw ymlaen âi hymgais i gyflawni ei haddewid o 50,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021.

Aeth y cynnydd o £70 miliwn a gyhoeddwyd gan yr ysgrifennydd cymunedau Aileen Campbell â’r gyllideb ar gyfer 2019/20 i £826 miliwn.

Meddai Ms Campbell: ‘Mae’r cynnydd hwn yn y gyllideb yn rhan o’r buddsoddiad mwyaf mewn tai fforddiadwy, a’r ddarpariaeth fwyaf ohonynt, ers datganoli, gyda mwy na £3 biliwn wedi ei ymrwymo, a fydd yn darparu cartrefi fforddiadwy, diogel, o ansawdd da, a fydd, yn ei dro, yn helpu i greu cymunedau cryf, cynaliadwy.’

Anogodd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban y llywodraeth i ymrwymo i gyllido y tu hwnt i oes y senedd hon sy’n dod i ben yn 2021, a beirniadodd hefyd y rhewi a fu ar gyllid ar gyfer addasiadau yn y cartref.

LLOEGR

Hwb wanwyn i gynllun gwarantu

Cyhoeddodd y Canghellor Philip Hammond Gynllun Gwarantu Tai Fforddiadwy gwerth £3 biliwn a fydd yn cefnogi hyd at 30,000 o gartrefi newydd.

Nod y cynllun yw gostwng costau benthyca cymdeithasau tai, ond mae’n disodli un a ddiddymwyd yn 2015 a dyma oedd uchafbwynt tai datganiad bwriadol ddi-sylw.

Yn sgil y datganiad, cafwyd datganiad ysgrifenedig gan yr ysgrifennydd tai James Brokenshire yn amlinellu cyfres o fesurau ar effeithlonrwydd ynni, safonau tai, a chynllunio.

Bydd Mesur Cartrefi’r Dyfydol newydd yn cynnwys gwaharddiad ar wresogi sy’n defnyddio tanwydd ffosil ym mhob cartref newydd o 2025.

Cafodd Arolwg Letwin o gyfraddau gwneud adeiladau ar safleoedd mawr yn barod dderbyniad cymysg, gyda geiriau cynnes yn gymysg â rhai’n pwysleisio mecanweithiau sy’n bod eisoes i sicrhau’n un amcanion.

Stori debyg oedd hi gyda datblygiadau a ganiateid, gyda chaniatâd i weithredu cynlluniau i lacio rheolau cynllunio ar estyniadau i fyny wedi ei wrthbwyso gan arolwg o ansawdd y cartrefi a gyflwynwyd o dan y system ddadleuol hyd yma.

GOGLEDD IWERDDON

Cynllun trwyddedu newydd ar gyfer tai mewn amlfeddiannaeth (HMOs)

Daeth cynllun trwyddedu â’r nod o wella amodau mewn Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) i rym ar Ebrill 1. Bydd y gyfundrefn reoleiddio hefyd ynghlwm wrth gynllunio fel bod modd rheoli faint o HMOs a geir mewn ardal neilltuol.Bydd Cyngor Dinas Belfast yn rheoli’r cynllun trwyddedu ar ran pob awdurdod lleol yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd David Polley o’r Adran Gymunedau: ‘Mae a wnelo hyn â gwella ansawdd y math hwn o lety rhentu preifat ac y mae’n rhywbeth a ddylai gael ei groesawu gan landlordiaid, y rheini sy’n byw mewn HMOs a’r rhai sy’n byw yn y cyffiniau.’

LLYWODRAETH CYMRU

Gweinidog yn gweithredu ar daenellwyr mewn adeiladau uchel

Bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ôl-osod taenellwyr mewn adeiladau uchel presennol, meddai’r gweinidog tai a llywodraeth leol, Julie James.Cadarnhaodd y gweinidog y bydd yn derbyn argymhelliad y grŵp arbenigol ar ddiogelwch adeiladau yn dilyn cyhoeddi ei gynllun ar gyfer gwella diogelwch tân mewn blociau uchel. Cyhoeddir ymateb llawn a chynllun project, gyda blaenoriaethau ac amserlenni ym mis Mai.Dywedodd Julie James: ‘Hoffwn ddiolch i’r grŵp am eu hamser a’u hystyriaeth fywiog a gofalus o ystod eang o faterion anodd. Byddaf yn ystyried argymhellion y grŵp ond un argymhelliad y byddaf yn ei dderbyn yn y fan a’r lle yw ein bod yn hyrwyddo ôl-osod taenellwyr. Mae tystiolaeth gadarn yn cefnogi effeithiolrwydd taenellwyr o ran achub bywydau, felly dwi’n ymrwymo i ystyried sut y gallwn wneud mwy i hyrwyddo ôl-ffitio mewn adeiladau uchel ar draws sectorau.’

Mae’r adroddiad (gov.wales/sites/default/files/publications/2019-04/building-safety-expert-group-road-map_0.pdf) yn nodi 143 o adeiladau preswyl uchel (dros 18m) yng Nghymru, 38 yn y sector cymdeithasol a 105 yn y sector preifat.Mae’n gwrthod ffocws arolwg Hackitt ar adeiladau uwch na 30m neu 10 llawr, a dywed y dylai Llywodraeth Cymru ystyried opsiynau’n cynnwys 18m (saith llawr), 11m (pedwar llawr) ac adeiladau sy’n dod o fewn y matrics risg yn ogystal â rhai uwchlaw uchder penodol.

Mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried hyrwyddo systemau chwistrellu mewn adeiladau uchel presennol, gan adeiladu ar sail y ddeddfwriaeth arloesol sy’n eu gwneud yn orfodol ym mhob adeilad newydd ac eiddo wedi’i addasu.

Y Cynulliad yn deddfu i wahardd ffioedd tenantiaid

Bydd deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn gwahardd y rhan fwyaf o ffioedd a chyfyngu ar faint yr ernes a delir gan rentwyr preifat, mewn grym o’r Hydref.

Bydd y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) yn ei gwneud yn drosedd codi unrhyw dâl ar denant nas pennwyd gan y ddeddfwriaeth fel ‘taliad a ganiateir ’. Golygu hyn na ellir codi ar denantiaid am bethau fel ymweld ag eiddo yng nghwmni asiant, derbyn rhestr eiddo, arwyddo contract, neu adnewyddu tenantiaeth. Amcangyfrifir y bydd y Bil yn arbed bron £200 y denantiaeth i denantiaid.

Ni chaniateir i asiantaethau gosod a landlordiaid fynnu taliadiau am rent, blaendaliadau diogelwch, blaendaliadau cadw eiddo, taliad mewn diffyg (pan fo tenant yn torri contract), a thaliadau am y dreth gyngor, cyfleustodau, trwydded deledu, neu wasanaethau cyfathrebu.

Bydd y Bil yn cyfyngu ernesau cadw a delir i gadw eiddo cyn y llofnodir contract rhentu i swm cyfwerth â rhent wythnos a chreu darpariaethau i sicrhau y cânt eu had-dalu’n brydlon. Bydd hefyd yn rhoi’r pŵer i Lywodraeth Cymru gyfyngu ar lefel blaendaliadau diogelwch.

Caiff cyfundrefn orfodi glir, syml a chadarn ei chreu i ddelio ag achosion o dorri’r ddeddfwriaeth hon, yn ôl Llywodraeth Cymru. Gellir cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig yn erbyn unrhyw un sy’n ceisio codi tâl gwaharddedig. Os na thelir y dirwyon hyn, gellir erlyn troseddau honedig drwy’r Llys Ynadon a gallent arwain at ddirwy heb derfyn arni. Hysbysir Rhentu Doeth Cymru am unrhyw drosedd, a gall y corff hwnnw ystyrid hyn wrth benderfynu p’run ai i ganiatáu neu adnewyddu trwydded – heb drwydded, ni all asiant neu landlord osod neu rentu eiddo yng Nghymru.

Meddai Julie James, y gweinidog tai a llywodraeth leol: ‘Tanlinellwyd y ffioedd a godir gan rai asiantaethau gosod a landlordiaid gan lawer o bobl fel y prif rwystr i allu sicrhau llety rhent o ansawdd da, gyda rhai tenantiaid yn wynebu ffioedd o fwy na £200 ar ben eu blaendal diogelwch a’u rhent. Bydd y Bil hwn yn sicrhau bod y costau rhentu hyn yn mynd yn fwy rhesymol, fforddiadwy a thryloyw, ac na fydd tenantiaid yn wynebu ffioedd sydd weithiau’n sylweddol ac afresymol o flaen llaw cyn dechrau rhentu.’

Cyn gynted ag y caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol, gwneir newidiadau i’r hyn y gellir ac na ellir codi tâl amdano cyn y flwyddyn academaidd newydd. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn golygu y gwêl tenantiaid sy’n symud tŷ, neu bobl sy’n rhentu am y tro cyntaf, arbediad sylweddol o fewn ychydig fisoedd.

Rhaglen Tai Arloesol yn mynd i’r drydedd rownd

Bydd y drydedd rownd o gyllid ar gyfer y Rhaglen Tai Arloesol yn gyfanswm o £35 miliwn wrth i ddulliau a thechnolegau newydd barhau i gael eu profi i helpu i ddatblygu tai cymdeithasol a fforddiadwy.

Gwnaeth y Gweinidog tai a llywodraeth leol Julie James y cyhoeddiad ar ymweliad â datblygiad Colliers Way Cyngor Abertawe ym Mhenlan. Fel y nodwyd yn rhifyn diwethaf WHQ, mae’r datblygiad yn cynnwys 18 o gartrefi cyngor sydd wedi’u hadeiladu i safonau Passivhaus. Mae Cyngor Abertawe yn adeiladu mwy o gartrefi ar y safle, gan ymgorffori technoleg batri, paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer diolch i gyllid gan y Rhaglen Tai Arloesol.

Ymwelodd y gweinidog hefyd â’r Ganolfan Adeiladau Actif ym Mhrifysgol Abertawe i weld sut mae’r ganolfan ymchwil a datblygu yn defnyddio technolegau adnewyddadwy a thechnegau insiwleiddio modern i helpu i ostwng biliau tanwydd ac allyriadau carbon wrth ddylunio tai.

Dywedodd Julie James: ‘Rydym yn gobeithio ehangu ffiniau o ran y math a’r raddfa o arloesedd a gefnogir yn y drydedd flwyddyn hon o’r rhaglen. Mae’r rhaglen hon yn gyfle pwysig i ddarparu cartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel sy’n helpu i leihau tlodi tanwydd a gostwng effeithiau adeiladu tai ar yr amgylchedd.

‘Mae’r buddsoddiad sylweddol yn y rhaglen yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i benderfynu sut y gall ac y caiff cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy’r dyfodol eu hadeiladu. Rwy’n edrych ymlaen at weld rhai projectau cyffrous yn ymgeisio am gyllid, fel y gallwn greu nifer o dai hyfryd o arloesol yng Nghymru.’

£ 15m arall ar gyfer cynllun Tir ar gyfer Tai

Dyrannodd Llywodraeth Cymru £14.67 miliwn pellach mewn benthyciadau i landlordiaid cymdeithasol i’w helpu i brynu tir i godi mwy o gartrefi ledled Cymru.

Daw’r arian o’r cynllun Tir ar gyfer Tai, sy’n caniatáu i gymdeithasau tai fenthyca arian i brynu tir i adeiladu arno. Caiff yr arian ei ailgylchu wrth i fenthyciadau gael eu had-dalu.

Cefnogir tua 17 o gynlluniau yn yr ail rownd hwn o gyllid ar gyfer 2018-19, sy’n dod â’r cyfanswm a fuddsoddwyd y flwyddyn ariannol hon i fwy na £ 32 miliwn, yn cynnwys £4.2 miliwn a ad-dalwyd ac a ail-fuddsoddwyd. Ers dechrau’r cynllun yn 2015, buddsoddwyd £52 miliwn, gan arwain at ddarparu mwy na 4,100 o gartrefi ledled Cymru, ac 84 y cant ohonynt yn gartrefi fforddiadwy.

Gwnaeth y gweinidog tai a llywodraeth leol Julie James y cyhoeddiad wrth ymweld â datblygiad Cymdeithas Tai Taf yn hen siop DIY FA Jones ar Ffordd Penarth yng Nghaerdydd, sydd i fod i gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf.

Bydd yn darparu 19 o fflatiau un- a dwy-lofft, yn cynnwys dwy sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ac uned fanwerthu. Dechreuwyd adeiladu ym mis Mai 2017 a disgwylir y gall yr adeiladwyr drosglwyddo’r datblygiad ym mis Gorffennaf 2019.

Derbyniodd y project fenthyciad Tir ar gyfer Tai o £504,000 i alluogi Tai Taf i brynu’r safle ym mis Mai 2017. Mae’r benthyciad wedi ei ad-dalu bellach a’i ailgylchu i mewn i gyllid y flwyddyn ariannol hon.

Meddai Julie James: ‘Rydym wedi ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y llywodraeth hon, ac mae’r Cynllun Tir ar gyfer Tai yn un o’r ffyrdd rydym yn buddsoddi i gyflawni hyn.

‘Gan mai cynllun benthyca yw hwn, pan gaiff yr arian ei ad-dalu, caiff ei ail-fuddsoddi mewn projectau newydd, gan ddarparu llawer mwy o werth na’r £ 52 miliwn a fuddsoddwyd hyd yma. Mae’n enghraifft ardderchog o sut rydym yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i adeiladu cartrefi a gwella bywydau pobl yng Nghymru.’

Lleolir yr 17 cynllun cymeradwy yng Nghaerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Wrecsam.

Aeth Julie James i broject Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth, Caerdydd ym mis Ionawr ar ei hymweliad cyntaf fel gweinidog tai, a gweld sut mae’r tîm yn cefnogi pobl i symud oddi ar y strydoedd i mewn i lety. Mae Tai yn Gyntaf wedi’i gynllunio i gefnogi pobl sydd ag angen cymorth sylweddol i gefnu ar ddigartrefedd. Caiff y bobl sy’n derbyn cymorth gynnig lle i fyw a chymorth tymor-hir wedi’i deilwra i’w helpu i gynnal tenantiaeth yn annibynnol. Cyfarfu â Chris, tenant (chwith), a rheolwr rhanbarthol Byddin yr Iachawdwriaeth, Yvonne Connolly (canol).

Benthyciadau’n agor y drws i fwy o hunan-adeiladwyr

Lawnsir cynllun newydd i wneud adeiladu’ch cartref eich hun yn haws ddiwedd y Gwanwyn.

Bydd Hunan-Adeiladu Cymru yn cychwyn â £40 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer benthyciadau a ailgylchir yn ystod y cynllun i greu buddsoddiad disgwyliedig o £210 miliwn.

Bydd Banc Datblygu Cymru yn gwarantu benthyciadau ar safleoedd y cytunwyd arnynt o flaen llaw. Ni fydd yn rhaid ad-dalu benthyciad nes bod morgais ar y cartref newydd, gan ganiatáu i bobl adeiladu eu cartref newydd a chwrdd â costau byw.

Gall ymgeiswyr llwyddiannus ddewis defnyddio adeiladwr cymeradwy neu wneud y gwaith eu hunain.

Bydd gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai leiniau ar gael â gofynion safle a chynllunio wedi’u cwblhau.

Bydd gan bob safle ‘basbort llain’ yn cynnwys dyluniadau cymeradwy, amcangyfrif o gost y gwaith adeiladu, ac opsiynau ar gyfer personoleiddio’r cartref.

Gall ymgeiswyr cymeradwy gadw llain trwy dalu blaendal o 25 y cant o gost y llain hwnnw. Bydd Llywodraeth Cymru, trwy Fanc Datblygu Cymru, yn darparu gweddill y cyllid a gellir gohirio ad-dalu am hyd at ddwy flynedd, neu tan y bydd y cartref wedi’i gwblhau.

Pan fydd wedi ei gwblhau, gallant sicrhau morgais traddodiadol, ad-dalu’r benthyciad datblygu, a chaniatáu i’r arian gael ei ailgylchu.

Ni fydd gofyn ad-dalu ffioedd na benthyciadau yn ystod y cyfnod dwy-flynedd, gan ganiatáu i hunan-adeiladwyr dalu eu costau byw ar hyd y cyfnod adeiladu.

Cyfyngir benthyciadau Banc Datblygu Cymru gan rai o’r un meini prawf â Chymorth i Brynu – Cymru; ar ôl ei gwblhau, rhaid iddo fod yn unig neu brif breswylfa’r hunan-adeiladwr ac ni chaniateir ei werthu na’i rentu am o leiaf bum mlynedd ar ôl ei gwblhau. Dim ond unwaith y caiff ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio’r cynllun.

Dywedodd y gweinidog cyllid Rebecca Evans: ‘Dwi’n falch ein bod yn defnyddio’r arian cyfalaf yn ein Cyllideb i gefnogi cynlluniau fel Hunan-Adeiladu Cymru, gan helpu pobl i adeiladu eu cartrefi eu hunain tra’n ysgogi ein marchnad tai ac eiddo.’

Cyhoeddi Dyfarniadau Rheoliadol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi casgliad o Ddatganiadau Rheoleiddio ar gymdeithasau tai ers y rhifyn diwethaf o WHQ.

Cafodd Tai Taf, Aelwyd, Cadarn, Bron Afon, Tai Ceredigion, Tai Tarian ac Abbeyfield Cymru statws cyd-reoleiddio safonol  o ran llywodraethiant a gwasanaethau a hyfywedd ariannol.Fodd bynnag, mae angen mwy o oruchwyliaeth reoleiddiol ar gyfer Tai’r Canolbarth a YMCA Caerdydd i fodloni’r pum safon perfformiad a nodir yn y dyfarniadau.

Cyhoeddwyd Dyfarniad Rheoliadol – Adolygiad o’r Flwyddyn hefyd ar gyfer Tai Cymuned Caerdydd yn nodi bod angen mwy o oruchwyliaeth reoleiddiol ar lywodraethiant a darparu gwasanaethau, a bod ganddo statws cyd-reoleiddio safonol mewn hyfywedd ariannol. Canfu’r adolygiad ei fod wedi bodloni’r gofynion am welliannau llywodraethiant blaenoriaethol ac wedi mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch.

Fodd bynnag, mae angen mwy o oruchwyliaeth reoleiddiol i fodloni tair safon perfformiad.

Mae Dyfarniadau Rheoliadol ar gael yn https://llyw.cymru/dyfarniadau-rheoleiddio

 

 

CYMRU

Cartrefi newydd yng Nghaerffili

Mae datblygiad ar y cyd sy’n creu 34 o gartrefi newydd yng Nghaerffili wedi agor yn swyddogol diolch i gytundeb ariannu arloesol.

Mae’r safle ar Heol Watford yn agos at ganol y dref yn ganlyniad cytundeb cyllido rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Grŵp United Welsh. Mae’n cynnwys 16 cartref ar werth a 18 i’w rhentu am rent fforddiadwy.

Gwerthodd y cyngor ran o’r safle am ei werth marchnad drwy United Welsh a ddatblygodd y safle. Defnyddiwyd elw o’r eiddo a werthwyd am bris y farchnad o dan y brand cartrefi harmoni i helpu i gyllido’r gwaith o adeiladu’r tai ar rent fforddiadwy. Mae’r cyngor hefyd yn elwa o elw uwch na’r gyfradd farchnad o brydlesu’r tir a gadwyd.

Ymwelodd arweinydd Cyngor Caerffili, David Poole, a’r aelod cabinet ar gyfer cartrefi a lleoedd, Lisa Phipps, â’r safle i gwrdd â rhai o’r tenantiaid newydd.

Cynllun gofal ychwanegol yn hwb i swyddi lleol ym Mhorthmadog

Mae prosiect adeiladu mawr newydd ar gyfer pobl hŷn yng Ngwynedd wedi rhoi profiad gwerthfawr o’r diwydiant adeiladu i 12 prentis o ogledd Cymru, gyda 92 y cant o’r gweithlu hefyd yn byw yn y rhanbarth.

Agorodd datblygiad £7.8 miliwn Grŵp Cynefin ym Mhorthmadog, Hafod y Gest, yn ddiweddar, gan ganiatáu i bobl hŷn o’r ardal elwa ar gyfleuster byw’n annibynnol newydd mewn amgylchedd cymunedol diogel gyda gwasanaethau gofal hyblyg ar gael.

Mae Hafod y Gest yn ddatblygiad partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin a ddatblygwyd gan Adeiladu Anwyl. Mae wedi ei leoli yng nghanol tref a chymuned Porthmadog, yn agos at y siopau a’r cyfleusterau. Mae’r datblygiad yn cynnwys 26 o fflatiau dwy-lofft a 14 o fflatiau un-llofft ac mae ganddo rannau cymunedol, yn cynnwys stafell fwyta, lolfeydd, gerddi a stafelloedd gweithgareddau.

Roedd tua 85 y cant o’r gweithlu ar y project datblygu yn byw o fewn radiws o 30 milltir yng ngogledd orllewin Cymru gyda saith o’r prentisiaid hefyd yn teithio o fewn yr un ardal. Yn ogystal, aeth 93 y cant o wariant contract Hafod y Gest ar nwyddau, gwasanaethau a chostau gweithredu i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru.

CYHOEDDIADAU

10 SY’N DAL Y SYLW

  1. Life after free movement: Making future immigration policy work for Wales

Sefydliad Bevan, Ionawr 2019

www.bevanfoundation.org/publications/life-after-free-movement/

2. Outsourcing oversight? The case for reforming access to information law

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Ionawr 2019

ico.org.uk/about-the-ico/what-we-do/outsourcing-oversight/

3. UK Housing Review

Y Sefydliad Tai Siartredig/PrifysgolHeriot Watt, Ebrill 2019

www.cih.org/publication/display/vpathDCR/templatedata/cih/publication/data/UK_Housing_Review_2019

4. Human rights briefings

Sefydliad Bevan, Chwefror 2019

www.bevanfoundation.org/publications/incorporation-of-human-rights/

5. Planning for new homes

Y Swyddfa Archwilio, Chwefror 2019

www.nao.org.uk/report/planning-for-new-homes/

6. Home for good – the role of floating support services in ending rough sleeping

St Mungos, Rhafyr 2018

www.mungos.org/wp-content/uploads/2018/12/Home-for-Good-floating-support-report.pdf

7. Homelessness in 2030

FEANTSA a Y-Foundation, Chwefror 2019

www.feantsa.org/en/news/2019/02/06/news-homelessness-in-2030

8. Exploring shared ownership markets outside London and the South East

Canolfan Polisi Tai, Prifysgol Efrog, Chwefror 2019

www.york.ac.uk/chp/news/2019/alison-wallace-report/

9. Co-living: A solution to the housing crisis?

Sefydliad y Farchnad Gymdeithasol, Chwefror 2019

www.smf.co.uk/wp-content/uploads/2019/02/Co-Living.pdf

10. The last-time buyer: housing and finance for an ageing society

Y Ganolfan Astudio Arloesedd Cyllidol, Chwefror 2019

static1.squarespace.com/static/54d620fce4b049bf4cd5be9b/t/5c6c374b4785d3cf6cc88d99/1550595927352/Housing_02-19__WEB.pdf


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »