English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Yr ymdaith faith

Gareth Hughes yn asesu 20 mlynedd o lwyddiant, o nofio rhad ac am ddim i rai dros 60 i ddiweddu’r Hawl i Brynu

‘Cŵl Cymru.’ Dyna oedd hi, bid siŵr. Roedd Catatonia, Super Furry Animals, Stereophonics, Gorki’s Zygotic Monkeys a llawer o grwpiau Cymreig eraill yn mynd drwy’u pethau.

Ac roedd sŵn newid gwleidyddol ym mrig y morwydd.

Ugain mlynedd yn ôl, wedi refferendwm ddirdynnol, roedd gan Gymru am y tro cyntaf ers y canol oesoedd fymryn o ymreolaeth. Fe’i gwelid fel dechrau newydd i hen wlad.

Roedd yn sicr yn gymedrol – prin y gallai’r sefydliad newydd dorri’r gwynt heb gymeradwyaeth San Steffan – ond er cyn lleied y briwsion cyfansoddiadol hyn, roedd yn ddechrau.

Tra’r oedd yr Albanwyr yn bwrw ymlaen â Senedd lawn, roedd Cynulliad Cymru yn cropian yn y lôn araf â phwerau cyfyngedig. Ond roedd yr ymdaith faith tuag at ddatganoli ystyrlon ar y gweill.

Ar ôl dau adroddiad cyfansoddiadol, dwy Ddeddf Cymru a refferendwm ddatganoli arall, mae Cymru bellach yn nesáu at yr hyn oedd gan yr Alban 20m mlynedd yn ôl – Senedd â phwerau i ddeddfu a chodi trethi.

Ond wrth i grysalis y Cynulliad drawsnewid yn senedd â phwerau go iawn, mae gafael llymdra yn dal i gyfyngu ar yr arian sydd ar gael i wireddu unrhyw uchelgeisiau newydd sydd gan y sefydliad.

Yn nyddiau cynnar y Cynulliad pan oedd mwy o arian ar gael, a phan mai’r cwbl bron oedd gan y corff i’w benderfynu oedd ble y dylai’r arian fynd, penderfynodd y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, mai ei flaenoriaeth ef oedd gwreiddio’r Cynulliad yng nghalonnau’r Cymry drwy fwrw ymlaen â nifer o fesurau poblogaidd.

Gallai’r rheini dros 60 oed deithio ar hyd a lled Cymru am ddim â’u tocynnau bws. Byddai pawb yn cael moddion yn rhad ac am ddim ar bresgripsiwn. Y ddadl fawr yn y cabinet oedd a a ddylid cynnig nofio am ddim i rai dros 60 oed neu rai dan 18 oed. Y rhai dros 60 a enillodd – wedi’r cwbl, nhw oedd â phleidlais.

Roeddent oll yn fesurau poblogaidd a diau iddynt helpu i baratoi’r ffordd at ganlyniad llwyddiannus pan gynhaliwyd y refferendwm nesaf i gynyddu pwerau’r Cynulliad.

Ond doedd mo’r adnoddau angerheidiol i ddatrys argyfwng tai Cymru ar gael. Doedd dim ymdeimlad o frys.

Mae Llywodraeth Cymru bellach ar ei phedwerydd Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac yn ei brosbectws ar gyfer y swydd rhestrodd dai fel un o’i flaenoriaethau.

Cadwodd ei air, a chreu gweinidogaeth tai ac adfywio â’r gweinidog â sedd wrth fwrdd y cabinet, cam cyntaf i Gymru; cyn hynny, dim ond rhan o bortffolio gweinidogol llawer mwy oedd tai.

Hyd yn oed yn yr amser cymharol fyr y bu gan y Cynulliad y pŵer i ddeddfu, mae wedi llenwi’r llyfrau statud â deddfwriaeth sy’n ymwneud â thai, o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, Deddf Tai (Cymru) 2014, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Er gwaetha’r holl ddeddfu, mae’r argyfwng digartrefedd yn ddifrifol ac mae’r cyflenwad tai, yn enwedig tai cymdeithasol, yn llawer llai na’r galw. Ymddengys fod yr argyfwng tai – fel tlodi – gyda ni beunydd.

Mae’r ateb yn ddigon syml – adeiladu mwy o gartrefi – ond y broblem, fel bob amser, yw arian. Mae Llywodraeth Cymru wedi dioddef torriad o 7 y cant yn ei chyllideb ers 2010. Llai o arian ar gyfer popeth.

Ni all gwleidyddion Cymru, fel gweddill y DU, gael eu gweld yn gwrthod gofynion di-ben-draw y gwasanaeth iechyd, felly mae dros hanner cyllideb y llywodraeth wedi ei glustnodi eisoes. Rhaid i dai gystadlu am yr hyn sy’n weddill ac nid yw byth yn ddigon i ateb y galw.

Er gwell neu er gwaeth, cafodd polisi tai ei lunio yng Nghymru ers 20 mlynedd bellach, ac mae breuddwyd  dyddiau a fu o atebion Cymreig i broblem tai Cymru yn ffaith.

Efallai, o dan weinyddiaeth Drakeford, caiff y breuddwydion hyn eu gwireddu, gan ddiwallu angen sylfaenol holl ddinasyddion Cymru am loches.

Mae Gareth Hughes yn newyddiadurwr, darlledwr a sylwebydd gwleidyddol ar ei liwt ei hun


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »